Mae beddrod ei fam yn Nhrawsfynydd, Cynefin y gwynt a'r glaw, Ac yntau ynghwsg ar obennydd Ym mynwent yr estron draw. Bu fyw ag addfwvnder a chariad Yn llanw'i galon ddi-frad; Bu farw a serch yn ei lygad Ar allor rhyddid ei wlad. Bu farw a'r byd yn ei drafferth Yng nghanol y rhyfel mawr: Bu farw mor ifanc a phrydferth A chwmwl yn nwylo'r wawr. Breuddwydiodd am fywyd di-waew A'i obaith i gyd yn wyn; Mor galed, mor anodd oedd marw Mor ifanc, mor dlws â hyn. Ni ddaw gyda'r hafau melynion Byth mwy i'w ardal am dro; Cans mynwent sy'n nhiroedd yr estron Ac yntau ynghwsg yn ei gro. Ac weithian yn erw y marw Caed yntau huno mewn hedd; Boed adain y nef dros ei weddw, A dail a rhos dros ei fedd. |
His mother's grave is in Trawsfynydd, The habitat of the wind and the rain, And he asleep on a pillow In the cemetery of the distant foreigner. He lived with gentleness and love Filling his loyal heart; He died with affection in his eye On the altar of his land's freedom. He died with the world in its trouble In the midst of the great war: He died so young and beautiful With a cloud in the hands of the dawn. He dreamed of a pain-free life With his hope all bright; So hard, so difficult was death So young, so pretty as this. He will not come with the honeyed summers Ever again to his district for a stroll; For the cemetery is in the stranger's lands And he is asleep in its gravel. And sometimes in death's acre May he get to sleep in peace; May the wings of heaven be across his widow, And leaves and moor across his grave. tr. 2010 Richard B Gillion |
|