Fy Mrenin, fy Mhrynwr, Gwiw rad, a'm Gwaredwr, Fy nodded, fy nyddiwr, llywiawdwr pob lles, Yn ddiddan dros ddynion Tywelltaist, do, helltion Ddiferion o finion dy fynwes. Dy gariad, Oen gwirion, At annoeth blant dynion, Swydd annwyl, sydd union arwyddion o ras; I'n dwyn o law angau, Ni allodd picellau Na phoenau, dialeddau, dy luddias. Drwy ystyr ei dristyd A'i boenau bob ennyd, Fu'n dirwyn yn ddiwyd ei fywyd i fedd, Mi glywaf yn ddilys Ei lef yn wylofus Dan bwysau anghymwys fy nghamwedd. Pe byddai fy mhechod Cyn amled â'r tywod, Neu sêr y nef uchod, nid gormod y gwaith I ti Hollalluog, Er mwyn yr Eneiniog, Ei faddau, Iôr enwog, ar unwaith. Dod imi lawenydd A heddwch na dderfydd, A gafael o'r newydd, ar grefedd y groes; A chynnal fi'n effro Tra bwyf yn ymdeithio, Nâd imi drwm huno drwy'm heinioes. |
My King, my Redeemer, Worthily gracious, and my Deliverer, My refuge, my comforter, governor of every benefit, Interceding for men Thou poured out, yes, salty Drops from the edges of thy breast. Thy love, innocent Lamb, To the unwise children of men, A gentle role, is a direct sign of grace; To take us from the hand of death, Spears cannot Nor pains, retributions, hinder thee. Through considering his sorrow And his pains every moment, His life was winding diligently to a grave, I hear unmistakeably His cry woeful Under the unqualified weight of my transgression. If my sin were As numerous as the sand, Or the stars of heaven above, not too much the work For thee Almighty, For the sake of the Anointed, To forgive him, renowned Lord, at once. May joy come to me And peace that will not pass away, And a grasp anew, on the belief of the cross; And keep me alert While ever I am travelling, Do not let me sleep heavily throughout my lifespan. tr. 2015 Richard B Gillion |
|