Na âd fi'n angho', un wyf fi Mewn serch fel craig yn beiddio'r lli': Bu'n curo arnaf lawer tòn Ond byth yr un yw'r fynwes hon. Na âd fi'n angho'; cofia hynt Ein rhodiad dedwydd, hyfryd gynt, - Pan hedai'n serch mewn modd di ball Fel saeth o lygad un i'r llall. Na âd fi'n angho' pan bo'r gwŷdd Yn deilio'r haf; llawn bryd a fydd It' gofio'n hymddiddanion mwyn Brydnawnau têg dan gysgod llwyn. Na âd fi'n angho'; nid yw'n hardd, Pan rodiot hyfryd lwybrau gardd Neu rhai o'r adar ar y berth A wedant nad yw'th air o werth. Na âd fi'n angho' pan bo'r wledd A'r lawen gân yn llonni'th wedd; Mi fuais innau pan y cawn Gyfeillach un yn llawen iawn. Na âd fi'n angho' unrhyw bryd Y b'ot ymhell o swn y byd: Ar awr o'r fath, mewn mwynder maith, Bu siarad rhyngom lawer gwaith. Ar ganol nos os ar ddihûn, Na âd fi'n angho'; 'n wir mae un Yn debyg iawn, dan oeraidd gri, Yr amser hwn o'th gofio di. Na âd yn angho' 'r olaf dro Bu ein cyfarfod; dwys oedd o: Mae'r ymddiddanion oll i gyd I mi ar gof, yn llenwi 'mryd. E ffrydiai'm dagrau; siglai'm bron Fel llong mewn tymhestl ar y dòn: Os gelli'm troi o'th gof, nid syn Fydd unrhyw newid wedi hyn. Na âd fi'n angho', os yn gas Bydd neb i ti ar ddaear las; - O! nid fel hyn, iawn wyddost ti, Bu ein cyfarfod olaf ni. |
Do not let me forget, I am the same In affection as a rock stopping the flow: It was beating against me many a wave But forever the same is this breast. Do not let me forget; remember the course Of our happy, delightful roaming formerly, - When our affection flew in an unfading means Like a shot from an eye to the other. Do not let me forget when the woodland is Making leafy the summer; full time shall be For thee to remember our gentle entertainments Fair afternoons under the shadow of a grove. Do not let me forget; it is not beautiful, When thou didst roam the delightful garden paths Or some of the birds on the hedge Said thy word is of no worth. Do not let me forget when there be a feast And the joyful song cheering thy countenance; I too was, when I could get Companionship of one, very joyful. Do not let me forget any occasion Thou wast far from the sound of the world: On an hour of the kind, in vast gentleness, Spoken between us many a time. At midnight if unsleeping, Do not let me forget; truly there is one Very similar, under a chilly cry, This time of remembering thee. Do not let me forget the last time We met; intense it was: All the entertainments are For me remembered, filling my mind. It streams my tears; shakes me utterly Like a ship in a temptest on the wave: If thou canst turn me from thy memory, not a surprise Shall be any change after this. Do not let me forget, if detestable Be anyone to thee on the blue-green earth;- O not thus, wel thou knowest, Was our last meeting. tr. 2016 Richard B Gillion |
|