Nant y Mynydd groyw loyw, Yn ymdroelli tua'r pant, Rhwng y brwyn yn sisial ganu, - O na bawn i fel y nant! Grug y Mynydd yn eu blodau, Edrych arnynt hiraeth ddug Am gael aros ar y bryniau Yn yr awel efo'r grug. Adar mān y mynydd uchel Godant yn yr awel iach, O'r naill drum i'r llall yn 'hedeg, - O na bawn fel 'deryn bach! Mab y Mynydd ydwyf innau Oddi cartref yn gwneud cān, Ond mae 'nghalon yn y mynydd Efo'r grug a'r adar mān. |
The brook of the Mountain, pure and bright, Winding towards the hollow, Between the reeds singing whisperingly, - O that I might be like the brook! The heather of the Mountain in their flowers, Looking upon them brings longing To get to stay on the hills In the breeze with the heather. The small birds of the high mountain Sing in the healthy breeze, From one peak to the other flying, - O that I might be like a small bird! A son of the Mountain am I Away from home making a song, But my heart is in the mountain With the heather and the small birds. tr. 2016 Richard B Gillion |
|