Aeth blodau dyddiau dedwyddion - drosodd D'ryswyd fy nghysuron; Mae pob lle o'm pabell hon Ar waeth, o lawer, weithion . . . O bu'n wan faban unwaith, - y gwychaf, Wrth gychwyn i ymdaith, E dry'r dyn, draw ar y daith, I boen wael maban eilwaith. Ymredodd fy moredeg - amseroedd Mesurwyd eu hadeg; Yn iach gan fyth ychwaneg, Neu gyraedd dawn, na grudd deg. Gorddwys yw'r hen pan gerddo, - a'i weinion Ewynau'n diffygio; Gormod y bennod tra bo Lle rhedodd, allu rhodio. Er mwynhau rhadau rheidiol, - a meddu Pob moddion tymhorol; Ni werthir yn ei wrthol Ddoe i neb, - ni ddaw yn ol. Myned sy raid i minau, - drwy wendid I'r undaith â'm tadau; Mae 'mlinion, hwyrion oriau A'm hos hir yn ymnesáu. Henffych wlad i rad rodio, - a mwynaf Man i gael gorphwyso; Blinder, gorthrymder, na thro Ni bydd un na bedd yno. - - - - - Aeth blodau dyddiau dedwyddion - heibio A'u hoywber gysuron; Chwith i mi'r awr hwyrfawr hon, Hen wr cul hanner calon. |
The flowers of happy days have gone - over My comforts were confused; Every place from this my tent is Worse, much, henceforth . . . O he was a weak baby once, - the most brilliant, On setting out to journey, He will turn the man, yonder on the jouney, To the pain of a poor baby again. My fair morning ran - times Their occasion was measured; Healthy by never adding, Or reaching a gift, nor a fair cheek. Laborious is the old when he walks, - and his weak Sinews failing; Too much the chapter while he is, Where he ran, able to walk. Despite enjoying necessary graces, - and possessing Every timely means; It is not to be valued backwards Yesterday to no-one, - will come back. To go is necessary or me too, - through weakness On the same journey with my fathers; My griefs are, in evening hours And my long night approaching. Farewell land freely to walk, - and the gentlest Place to get to rest; Neither of grief, oppression, nor turning Shall there be any, nor grave there. - - - - - The flowers of happy days have gone - past With their gaily sweet comforts; Awkward to me this greatly late hour, And old narrow man of half a heart. tr. 2016 Richard B Gillion |
|