Pe doech yn ôl i fro eich cydnabod, Chwi welech fel cynt, Eira fel llynges dlos o wylanod A'r lanw y gwynt. Gwelech lwydni y gaeaf diwenau Ar fynydd a rhos; Clywech y corwynt fel storm o dduwiau Yng nghanol y nos. Yma mae celloedd gwag dan y ddrycin Yn fud a di fri, A'r gwynt yn chwilio pob llofft a chegin Amdanoch chwi. Pell yw'r ieuenctid llawen eu dwndwr Fu'n cerdded y fro; 'Chydig sy'n mynd at y Bont a'r Merddwr Yn awr ar eu tro. Holi amdanoch â llais clwyfedig Mae'r ardal i gyd; Chwithau ymhell fel dail gwasgaredig Ar chwâl tros y byd. Rhai ohonoch sy merw y brwydrau Yn y rhyfel draw, A sŵn diorffwys myrdd o fagnelau O'ch cylch yn ddi-daw. Eraill syn crwydro gwledydd pellennig Yn alltud eu hynt Ac yn eu calon atgo Nadolig Yr hen ardal gynt. Ple bynnag yr ydych, blant Trawsfynydd, Ar ledled y byd, Gartre mae rhywrai ar eu haelwydydd Yn eich cofio i gyd. Ni all pellterau eich gyrru yn ango, Blant y bryniau glân; Calon wrth galon syn aros eto, Er ar wahân. A phan ddaw gŵyl y Nadolig heibio I'r ddaear i gyd, Blant Trawsfynydd, tan arfau neu beidio, Gwyn fo eich byd. |
If you were to come back to your familiar vale, You would see as before, Snow like a pretty fleet of seagulls On the flow of the wind. You would see the greyness of the miserable winter On the mountain and moor; You would hear the hurricane like a storm of gods In the middle of the night. Here are empty cells under the bad weather Mute and unesteemed, And the wind searching every upper room and kitchen For you. Distant are the young of joyful din, Who walked the vale; Few are they who go to the Bridge and the Creek Now on their jaunt. Asking about you with a wounded voice Is all the district You distant like scattered leaves Dispersed across the world. Some of you are contending the battles In yonder war With the sound of a myriad of cannons Clamouring around you. Others are wandering distant lands As an exile of their course And in their heart the memory of the Christmas Of the old former district. Wherever you are, children of Trawsfynydd, Abroad across the world, At home are some in their homesteads Remembering you all. Distances cannot drive you to forget, Children of the clean hills, Heart to heart which remain yet, Despite being separated. And when the festival of Christmas comes by To all the earth, Children of Trawsfynydd, under arms or not, Blessed be you. tr. 2010 Richard B Gillion |
|