Dau lygad disglair fel dwy em Sydd i'm hanwylyd i, Ond na bu em belydrai 'rioed Mor fwyn a'i llygad hi. Am wawr ei gwddf dywedyd wnawn Mai'r cann claerwynnaf yw, Ond bod rhyw lewych gwell na gwyn, Anwylach yn ei liw. Mae holl dyneraf liwiau'r rhos Yn hofran ar ei grudd; Mae'i gwefus fel pe cawsai'i lliw O waed y grawnwin rhudd. A chlir felyslais ar ei min A glywir megis cān Y gloyw ddŵr yn tincial dros Y cerrig gwynion mān. A chain y seinia'r hen Gymraeg Yn ei hyfrydlais hi; Mae iaith bereiddia'r ddaear hon Ar enau 'nghariad i. A synio'r wyf mai sŵn yr iaith, Wrth lithro dros ei min, Roes i'w gwefusau'r lluniaidd dro, A lliw a blas y gwin. |
Two shining eyes like two gems My beloved has, But never a gem radiated So gently as her eye. About the aspect of her neck I would say That the clearest, whitest white thing it is, But that there is some radiance better than white, More beloved in its colour. All the tenderest colours of the moor are Hovering on her cheek; Her lip is as if it got its colour From the blood of the ruddy grape. With a clear, sweet voice on her lip Which is to be heard like the song Of the bright water, trickling over The small white stones. And refined the old Welsh sounds In her delightful voice; The sweetest language of this earth is On the mouth of my love. And wondering I am that the sound of the language, While slipping across her lip, Gave to her lips the artful turn And colour and taste of the wine. tr. 2016 Richard B Gillion |
|