("Y Galon sydd fwy ei thwyll nâ dim, a drwg ddiobaith ydyw pwy a'i hedwyn?." Jeremi xvii. 9.) Dirgelaf le ydyw'r galon; - edrych I'w anhydraidd eigion Nid ellir, - diau deillion, Er pwyll, ŷm i hagrdwyll hon. Gwâl addoer yw i gelwyddau; - enllib, Ac anllad ddrwg eiriau A gwnnant, och! i'r genau, I friwio hedd a'i freuhâu. Yn dala mae'i hudoliaeth - y callaf; - Colli wna gwybodaeth Wrth bwyso, er gwylio'n gaeth, Y galon - gwae ehelaeth. Glân hynod ei galon ei hunan - fyth Dyn a farn yn fuan; O'r golwg, îs mawr geulan, Gudd dwfn, y mae'r fagddu dân. Pwy hygar wr gwâr, gwirion, - yn wiwdeg A edwyn ei galon? Gwneyd yn annoeth y doethion, A'i gweniaith hyllfaith, mae hon. Ow! gell lawn dichell oer, du; - yn boenus Pob enaid mae'n dallu: Tywyllwch gaiff fantellu Baw yn llwyth a beiau'n llu. Yn ei ddydd Dafydd, er dwyn - yr oenig, Ran Urïas addfwyn, Er brad ac anllad gynllwyn, Nis teimlai, nis gwypai gŵyn. Yn fuan Nathan ddynoethai - y drwg, Gan ei drin yn hyllfai O'r bôn; etto'n hir y bai Y galon gas a gelai. Gwilia, ddyn, ar dy galon - yn fywiog; Na feia'th gym'dogion, Cei'n nes, yn y Sarphes hon, I'w ddiwygio lawn ddigon. Yn angall na chwil wallau - rhai eraill, Rhy eirwon dy lwybrau, Adyn ffol, a'th fron di'n ffau A dewr ogof pob drygau. Y drwg sydd yn agos i dre', - lladder Er llwyddiant ef gartre', Yn llon, canys dyma'r lle Gwna ei ôl freg anaele. Iawn ymladd di ag anamlwg - waeledd Dy galon lawn hyllddrwg; Y'ngheubwll, twll tywyllwg, Dy fron ddu cais drechu'r drwg.
Daniel Evans (Daniel Ddu o Geredigion) 1792-1846 |
("The Heart is more deceitful than anything, and hopelessly evil it is; who will know it?" Jeremiah 17:9.) A most secret place is the heart; - to look Into its waterless ocean Is impossible, - doubtless blind, Although wary, we are to its ugly deceit. A cold lair it is for lies; - slander, And wanton evil words Which make, oh! the mouth, Break peace and and shatter it. Seizing is its enchantment - the wisest; - Lose shall knowledge By pressing upon it, despite close watching, The heart - widespread woe. Remarkably pure his heart itself - never A man who judges quickly; Out of sight, under a great bank, A hidden depth, is the pitch-black fire. What amiable, genial, innocent man, - worthily Knows his heart? To make unwise the wise ones, With his hideous flattery, is such. Oh, a cold, black lie full of deception; - painfully Every soul it understands: Darkness shall get to cloak Muck as a tribe and faults as a host. In his day David, although stealing - the lambkin, The portion of gentle Uriah, Despite treachery and a wanton scheme, Did not feel, did not know a complaint. Soon Nathan would expose - the evil, Treating it as a hideous fault From the root; still long the fault The wicked heart would conceal. Keep watch, man, upon thy heart - vigorously; Do not offend thy neighbours, Thou mayst get next, in this snake, Its correcting fully enough. Foolishly do not seek to correct - others, Too rough thy paths, A foolish wretch, with thy breast a lair And a mighty cave of all evils. The evil is near to home, - to be killed For the sake of his success at home, Cheerfully, since here is the place It makes its incurable treacherous mark. Well fight thou with the invisible - baseness Of thy heart full of hideous evil; In the deep pit, the hole of darkness, Of thy black breast seek to overcome the evil. tr. 2017 Richard B Gillion |