Yr Anrheg Oreu

Yr Anrheg Oreu
(Sef Bibl, a gyflwynwyd gan Miss Jane Jones,
Pontymeibion (gynt o Nantyr), Saron,
capel Newydd Nantyr, fel arwydd cynhes
o barch i'w hen gartref.)
  Yn wir
Yr anrheg oreu yn y tir;
Fe wela pawb yn berffaith glir
  Mai cariad pur gynnyrchodd hon
Mewn chwaer a'i
    mynwes wèn yn dân,
  At aelwyd lân
      ei chartref llon.

  O pwy
A ddichon oedi awr yn hwy,
Heb lunio cân uwchlaw pob clwy',
  I ddiolch mwy i'r hon a fu
Mor hael a sicr yn ei rhan,
  Yn helpu'r gwan i dd'od yn gry'?

  Hoff chwaer,
Dymunwn mewn gweddïau taer,
Eich cwrdd tu draw i'r nefol gaer,
  Mewn gwisgoedd claer, urddasol fri;
Mewn hwyl, diolchwn yno'n lawn,
  Am freintiau llawn o'ch anrheg chwi.

  Fe gawn,
Ni gredwn yn hyderus iawn,
Trwy weision Duw, fwynhâu yn llawn
  O Ddwyfol ddawn yr Ysbryd Glân;
Rhoed yn ein genau eiriau Duw,
  Yn allu byw, i ennyn tân.

  O fraint!
Oedd rhoddi'r anrheg fwya 'i maint,
O gynhes gariad at y saint,
  Uwch poen a haint,
      cewch dâl am hyn;
Boed diolch puraf i chwi'n awr,
  I aros gwawr
      yr haf-ddydd gwỳn.

Hannah Roberts, Nantyr.
Tysorfa y Plant, Mawrth 1883.

The Best Gift
(That is a Bible, presented by Miss Jane Jones,
of Pontmeibion (formerly of Nantyr), Saron,
to Nantyr New chapel, as a warm sign
of reverence for her old home.)
  Truly
The best gift in the land;
Everyone will see perfectly clearly
  That pure love presented this
In a sister with her white
    breast as a fire,
  To the holy habitation
      of her cheerful home.

  O who
Is able to delay an hour later,
Without designing a song above all hearing,
  To thank evermore what was
So generously and sure in its part,
  Helping the weak to become strong?

  Dear sister,
We wish in intese prayers,
To meet you beyond the heavenly fortress,
  In clear garments, of dignified renown;
In joy, we shall give thanks there fully,
  For the full privileges of your gift.

  We may,
Let us believe very confidently,
Through the servants of God, enjoy fully
  The Divine gift of the Holy Spirit;
May he put in our mouth the words of God,
  As a living power, to kindle a fire.

  O privilege!
Was giving the gift of greatest size,
From warm love towards the saints,
  Above pain and disease,
      ye may pay for this;
May purest thanks be to you now,
  To await the dawn of
      the bright summer day.

tr. 2017 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.', an English translation by 'tr.'

~ Cerddi ~ Emynau ~ Caneuon ~ Lyrics ~ Home ~