Ar dorriad y wawrddydd ar foreu o Fai, A'r adar yn neidio trwy'r coedydd yn chwai, Wrth deithio trwy fynwent, wrth Eglwys rhyw blwy' Mewn ardal o Gymru - 'n ei enwi nid wy', - Mi welwn lân eneth mewn gwisgoedd yn wych, Yn ail i angyles mewn agwedd a drych, Yn fuain ei chamrau yn nesu o draw, A blodau amryliw yn llenwi ei llaw. Ymguddiais o'r golwg i wybod beth oedd Ei hamcan a'i neges mewn lle mor angh'oedd, Heb neb yn gydymaith - mor foreu o'r dydd - Gan adael cymdeithas am fangre mor brudd. Yn fuan y cyrchai at feddrod wrth fin Prif-lwybyr y fynwent, a syrthiai ar ei glin; A'r llysiau a blannai yn lluniaidd â'i llaw, A'i golwg yn gymmysg o fwynder a braw. Y dagrau a sychai o'i deurudd, fun lân, A'i napcyn ag ydoedd o liw'r eira mân, - A chlywn ei lleferydd, i'm meddwl i'n syn, Yn treiddio trwy'r awel yn rhywfodd fel hyn, Fan hon y mae'n gorwedd yn dawel yr un A garwn mor anwyl â'm henaid fy hun: Ond angau a'i dygodd i'm galar di daw, Yr amser yr oeddym ar uno'n dwy law. Fan hon y mae'n gorphwys o swn byd a'i si, Y cyfan îs heulwen sydd anwyl i mi; Clau dyfwch, heirdd flodau, yn fwyn ar ei fedd, Er methu mewn glendid ddynwared ei wedd. Ca'dd gennyf anrhegion yn fwy wrth ei fodd, - Fy llaw yn addewid, - fy ngwallt iddo'n rhodd, A hollol gydsyniad i gym'ryd fy rhan, O'i wynfyd neu'i adfyd - yn wych neu yn wan. Wrth eistedd fan yma mor foddus yr wyf, Y man lle mae'm meddwl b'le bynnag y b'wyf, - Pe teithiwn y ddaear o'i hamgylch i gyd, Fan hon b'ai canolbwynt gwastadol fy mryd. Er nad wyt o'r ddaear yn gwedyd un gair - Er nad wyt yn gwenu fel gwenaist ar Mair - Mae etto, f'anwylyd, yn gysur i mi Gael eistedd am ennyd yn agos i ti. Dy lygaid mwyn siriol fy meddwl a wêl, A chofiaf dy eiriau mor beraidd â'r mêl, - Dy fedd a gofleidiaf pe'n canfod b'ai'r byd, A mynnaf ein gweled fel gynt etto 'nghŷd. |
At the break of dawn on a morning of May, With the birds jumping through the wood nimbly, While travelling through the cemetery, by the Church of some parish In a region of Wales - naming it I am not. I saw a pure girl in garments brilliant, A second to angels in aspect and appearance, Her steps quick approaching from yonder, With variously coloured flowers filling her hand. I hid from view to know what was Her intention and her errand in a place so unpublic, Without any companion - so early in the day - Leaving society for a place so sad. Soon she would set out for a grave by the side Of the main path of the cemetery, and would fall on her knee; With the herbs she would plant artfully with her hand, And her look a mixture of gentleness and terror. The tears which were drying from her cheeks, the pure maiden, With her napkin which was of the colour of fine snow, - And I could hear her speech, surprising to my thought, Penetrating through the breeze somehow like this, Here is lying quietl the one I loved as dearly as my own soul: But death took him to my unending sorrow, The time we were about to join our hands. In this place he is resting from the sound of the world and its murmur, The whole under the sunshine which is beloved to me; Swiftly grow, beautiful flowers, gently on his grave, For the failing in comeliness to imitate his countenance. He got from me gifts more to his satisfaction, - My hand in promise, - my hair to him as a gift, And wholly consenting to take my part, From his blessedness or his adversity - brilliantly or weakly. While sitting here how content I am, The place where I am thinking of wherever I be, - If I should travel the world all around, This place would be the constant focus of my attention. Although thou art not from the earth speaking one word - Although thou art not smiling as thou didst smile on Mary - It is still, my beloved, a comfort to me To get to still for a while near to thee. Thy gentle, cheerful eyes my thought sees, And I remember thy words as sweet as the honey, - Thy grave I will embrace if the world were finding us, And I insist on our being seen like before, together again. tr. 2016 Richard B Gillion |
|