A raid im rodio anial dir, Trwy stormydd a thymhestloedd hir? Nid ofnaf ddim, doed dydd, doed nos, Yn ngolwg hyfryd gwaed y gro's. [Golwg, golwg, golwg, golwg, Yn ngolwg hyfryd gwaed y gro's] Ni saif y gelyn mwya'i rym Yn erbyn pen Calfaria ddim; A phen Calfaria hyfryd mwy Yw'r unig fan concweriaf hwy. [Unig, unig, &c.] Gwnaeth pechod i mi lwfrhau, Fe rwystrodd pechod fi'th fwynhau; Mewn dudew nos 'rw'i'n dysgwyl dydd, I'th gariad wneud fy nhraed yn rhydd. [Gariad, gariad, &c.] Pa ham caiff nwydau'm natur gref I atal awel bur y nef? Mae gradd yn well o'th gariad drud Na'r ddaear fawr a'r nef i gyd. [Ddaear, ddaear, &c.] Ni fedd y dwyrain faith na'r de, Bleserau fel pleserau'r ne'; Mae môr di-drai mewn marwol glwy', Heb ddechreu ac heb ddarfod mwy. [Ddechreu, ddechreu, &c.] Rho i mi brawf o'th gariad drud, I'r sawl a fynot dyro'r byd; Dy gwmni dry, mewn munyd awr, Y ddaear megys nefoedd fawr. [Ddaear, ddaear, &c.]William Williams 1717-91
Tonau [MH 8888]: Tôn [MH+88]: Langadock (<1811) |
Must I walk the desert land, Through storms and long tempests? I shall fear nothing, come day, come night, In the delightful view of the blood of the cross. [The view, the view, the view, the view, In the delightful view of the blood of the cross.] No enemy of the greatest force shall stand At all against the summit of Calvary; And the delightful summit of Calvary evermore Is the only place I shall conquer them. [Only, only, &c.] Sin made my lose heart, Sin frustrated my enjoying thee, In a thick black nigh I am expecting day, For thy love to make my feet free. [Thy love, thy love, &c.] Why shall the lusts of my strong nature Get to stop the pure breeze of heaven? A degree of thy precious love is better Than all the great earth and heaven. [Than all, than all, &c.] Neither the vast east nor the south possesses, Pleasures like the pleasures of heaven; There is an unebbing sea in a mortal wound, Without beginning and with never any fading away. [Beginning, beginning, &c.] Grant me to experience thy precious love, To those thou wilt give the world; Thy company shall turn, in a minute, The earth like great heaven. [The earth, the earth, &c.]tr. 2020 Richard B Gillion |
|