Ac Arglwydd y lluoedd wna i bobloedd y byd

(Esaia xxv.6, &c.)
Ac Arglwydd y lluoedd wna
    i bobloedd y byd,
Wledd o basgedigion,
    rai breision, ryw bryd:
  Gwin gloyw puredig,
      nid 'chydig y chwaith,
  Llawenydd, tangnefedd,
      fydd diwedd y daith.

Gwledd ar fynydd Sïon,
    bydd hon i'w boddhau,
Sef gwledd na ddiweddir,
    bur hir i barhau;
  Gwledd cariad di-gymmysg
      diderfysg eu Duw,
  O! awn gyd â'n gilydd
      i'w fynydd i fyw.
      
Fe ddifa 'n ei fynydd
    y gorchudd i gyd,
A'r llen sydd trwy'r oesoedd
    ar bobloedd y byd:
  Ni ad ein heneidiau
      mewn maglau'n hir mwy,
  Yn ngharchar tywyllwch,
      na ch'ledwch na chlwy.

Ni welir dim dagrau
    wylofau 'n y wledd,
Ond pawb yn bur siriol
    a gwrol eu gwedd;
  Ni ddaw achos cystudd
      na gwarthrudd na gwg
  I'w plith, na thywyllwch
      na d'ryswch na drwg.

Daw'r dydd y dywedir,
    addefir am Dduw,
Mai ynddo bu'n gobaith
    am berffaith gael byw;
  Y Duw hwn a'n ceidw
      rhag meirw byth mwy,
  Na welwn anialwch
      na ch'ledwch na chlwy.
Edward Jones 1761-1836

[Mesur: 11.11.11.11]

(Isaiah 25:6 etc.)
And the Lord of hosts will make
    for the peoples of the world,
A feast of fatlings,
    fat ones, some time:
  Clear, purified wine,
      of not a little taste,
  Joy, peace,
      will be the end of the journey.

A feast on mount Zion,
    this will be to satisfy them,
That is, a feast not to be ended,
    purely long to continue;
  A feast of unalloyed, undisturbed
      love of their God,
  Oh, let us go with one another
      to his mountain to live.

He will destroy in his mountain
    the cover altogether,
And the curtain which is through the ages
    over the peoples of the world:
  Do not leave our souls
      in snares any longer,
  In the prison of darkness,
      nor hardship nor wound.

No tears are to be seen
    of lamenting in the feast,
But all purely cheerful
    and brave their countenance;
  There will not come any cause of affliction
      nor shame nor frown
  Amongst them, nor darkness
      nor confusion nor evil.

The promised day will come,
    to be professed about God,
That in him was our hope
    perfectly to get to live;
  This God will keep us
      from dying for evermore,
  Let us not see a desert
      nor hardship nor wound.
tr. 2015 Richard B Gillion
(Isaiah 25:6-8)

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~