Aed efengyl fel y wawr-ddydd, Ar led i gludo myrdd trwy'r gwledydd, Ac aed sain yr udgyrn arian, I ddadymchwelyd teyrnas Satan. T'wyned haul ar fyrdd o werin, Sy'n y dwyrain a'r gorllewin; Sôn am Iesu a lanwo ynysoedd, Fel mae'r dyfroedd yn toi'r moroedd. Llanwed moroedd iachawdwriaeth, Holl gyrau'r byd, â gwir wybodaeth: Dehau, gogledd, a'r holl wledydd, Fyddo yn dyfod at Fab Dafydd. Doed myrddiynau maith o'r Indiaid, Hen Iuddewon a Phaganiaid; A'r holl ynysoedd a fo'n nesu, Yn dorf trwy ras tan faner Iesu. Llwyddiant i'r cenadau ffyddlon, Sy'n cyhoeddi efengyl dirion; I gael rhyw dorf ddirif (trwy gredu) Yn berlau hardd y'nghoron Iesu. Croeso hyfryd fore hawddgar, Pan ddel lluoedd nef a daear; I gyd ganu am ben Calfaria, Gyda'u Priod, Haleluia. ddadymchwelyd :: ddadwymchwel :: ddymchwelyd a lanwo ynysoedd :: lanwo'r 'nysoedd dyfroedd :: dŵr :: dwfr A'r holl ynysoedd a fo :: A'r ynysoedd oll fo Yn dorf trwy ras tan :: Trwy ras Ion dan
Tonau [8888]: |
Let the gospel go like the dawn of day, Abroad to convey a myriad through the lands, And let the sound of the silver trumpet go, To demolish the kingdom of Satan. Let the sun shine on a myriad of folk, Who are in the East and the West; Mention about Jesus shall flood islands, As the waters are roofing the seas. Let the seas of salvation flood All the corners of the world, with true knowledge: May South, North, and all the lands, Be coming to the Son of David. Let vast myriads of the Indians come, Old Jews and Pagans; And may all the islands be drawing near, As a throng through grace under the banner of Jesus. Success to the faithful emissaries, Who are publishing the tender gospel; To get some innumerable throng (through believing) As beautiful pears in the crown of Jesus. Welcome delightful, beautiful morning, When hosts of heaven and earth shall come; To sing together about the summit of Calvary, With their Spouse, Hallelujah! :: :: shall flood islands :: shall flood the islands waters :: water :: water :: As a throng through grace under :: Through the grace of the Lord under tr. 2015 Richard B Gillion |
|