Aed son am Geidwad enaid I dir yr India draw, A boed i filwyr Sïon Orchfygu ar bob llaw; I lawr y delo'r delwau, A'r holl eilunod mud; A'r Iesu fo'n teyrnasu Dros holl derfynau'r byd.Anadnabyddus Casgliad Samuel Roberts 1841 Tôn [7676D]: Meirionydd (William Lloyd 1786-1852) gwelir: Mae'r Iesu mawr yn maddeu |
May mention of a soul's Saviour go To the land of distant India, And may the soldiers of Zion Overcome on every hand; Down shall come the images, And all the mute idols; And may Jesus be reigning Over all the ends of the world.tr. 2016 Richard B Gillion |
|