Aeth heibio'r gauaf chwerw du, Y 'storom oer a'r gwlaw; Ac fe gyfododd hyfryd haul Efengyl bur gerllaw. Fe wnaeth ei babell yn ein plith, A'i bresennoldeb sy Yn troi pob cystudd chwerw loes, Yn hyfryd hedd i ni. Fe welwyd blodeu ar y ddae'r, Grasusau pur y nef; Oll yn arogli'n beraidd iawn Oddiwrth ei wisgoedd Ef. O hyfryd dawel nefol hin! Mi glywa'r adar mān, 'Nawr yn ymbyncio'n felus iawn Y waredigol gān. Mae turtur yr Efengyl fwyn Yn galw bro a bryn; Doed torf aneirif tua'r wlad Gyda'r awelon hyn. Mae'r haul yn ddysglaer yn y nef Cyfiawnder dwyfol ddyn; Ac mae'n tywynu'n hyfryd iawn Ar bob drylliedig un. Mae blodau'n tarddu ar y llawr
Tonau [MC 8686]: gwelir: Mae'r Haul yn ddysglaer yn y nef |
The bitter, black winter has passed, The cold storm and the rain; And a pleasant sun of a pure gospel Has risen at hand. He made his tent among us, And his presence is Turning every affliction of bitter pangs, Into delightful peace for us. Flowers are seen on the earth, The pure graces of heaven; All smelling very sweetly From His garments. O pleasant quiet heavenly weather! I hear the small birds, Now disputing very sweetly The deliverance song. The turtledove of the gentle Gospel Is calling vale and hill; Let an innumerable throng come towards the land With these breezes. The sun is brilliant in heaven Righteousness of a divine man; And it is shining very pleasantly On every shattered one. Flowers are springing up on the ground 2013,19 Richard B Gillion |
|