Aeth Mair, gan ddewis y rhan dda, I lawr at draed yr Iesu gwiw, A chalon isel Lydia fwyn A wnaed yn addas deml i Dduw; Y galon decaf oll yn wir Sy'n gwisgo gostyngeiddrwydd pur. Y sant gaiff uchaf goron nef Yw'r isaf ei addoliad gŵyl, Gan bwys gogoniant plyg i lawr, Pan fwyaf fyddo'i nefol hwyl; Agosaf i'r orseddfainc fry Yw troed-fainc gostyngeiddrwydd cu.Cas. o dros 2000 o Hymnau (S Roberts) 1841 [Mesur: 88.88.88] |
Mary went, having chosen the good part, Down at the feet of the worthy Jesus, And the lowly heart of gentle Lydia Was made a fitting temple for God; The fairest heart of all truly Is wearing pure humility. The saint who gets the highest crown of heaven Is the lowest in his unassuming worship, With the weight of glory he bows down, When greatest is his heavenly joy; I will approach the throne above Which is the foot-stool of dear humility.tr. 2016 Richard B Gillion |
|