Af at yr orsedd lân, Er dued yw fy lliw, Er haeddu uffern dân, Mae gobaith im' gael byw; Mae'r Oen a laddwyd ar y bryn, Yn dadleu'i waed am fywyd im'. Gwrandewir gweddi'r gwael, Er gwaned yw ei lef, Mae'r Oen o'i gariad hael Yn eiriol yn y nef; Gwrandewir ei erfyniad Ef Trwy rin y gwaed yn nghanol nef. Cawn goron cyn bo hir, Oll fel ei goron Ef; A gwel'd ei wyneb pur Yn ddysglaer yn y nef; A seinio'i glod, a'i ryfedd waith, Dros oesau trag'wyddoldeb maith.Ail Llyfr Tonau ac Emynau 1879 Tôn [666688]: Bryniau Canaan (alaw Gymreig) gwelir: Gwrandewir gweddi'r gwael Mae Duw'n cymodi'r byd |
I will go to the holy throne, Despite how black is my colour, Despite deserving hell fire, There is hope for me to get to live; The Lamb who was slain is on the hill, Pleading his blood for my life. The prayer of the poor is to be heard, Despite how weak is his cry, The Lamb, of his generous love, is Interceding in heaven; His petition is to be heard Through the merit of the blood in the centre of heaven. We may get a crown before long, All like his crown; And see his pure face Shining in heaven; And sound his praise, and his wonderful work, For the ages of a vast eternity.tr. 2020 Richard B Gillion |
|