Af ym mlaen a doed a ddelo

(Ymroddiad i ddysgwyl wrth Dduw)
Af ym mlaen a doed a ddelo,
  Tra fo hyfryd eiriau'r nef
Yn cyhoeddi iachawdwriaeth
  Lawn, o'i sanctaidd enau Ef:
Nid yw grym gelyn llym
  I'w anfeidrol ras Ef ddim.

Mewn gwasgfeuon mwyaf caled
  Etto brofodd dyn erioed,
Mae yn nerth, mae yn ddyddanwch,
  Mae yn gyfan îs y rhod;
Melys wîn, dwyfol rîn
  Yw i'r trallodedig ddyn.

Minnau ganaf am ei enw,
  Ac a draethaf maes ar led,
Mai Efe sydd unig deilwng
  O fy nghariad a fy nghred:
Mwy na'r ne' yw Efe,
  Neb nis gall gyflawni ei le.
William Williams 1717-91

Tôn [8787337]: Allein's (<1835)

gwelir:
  Digon yw dy air i'm harwain
  Dy air sy ddigon i fy arwain
  Mi debygwn drwy'r cymylau
  O gâd imi'n fuan Arglwydd

(Commitment to wait upon God)
I will go forwards come what may,
  While ever the lovely words of heaven be
Publishing full
  Salvation, from His holy mouth:
The force of a keen enemy is,
  To His immeasurable grace, but nothing.

In the hardest straits
  Man has yet experienced,
There is strength, there is comfort,
  There is totally under the sky;
Sweet wine, divine virtue
  There are for the afflicted man.

I also will sing about his name,
  And shall expound abroad,
That He alone is worthy
  Of my love and my trust:
Greater than heaven is He,
  No-one call fill his place.
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~