Agorwyd pyrth y nefoedd wiw, Mi welaf fôr o waed; A gallaf fi'r ffieiddia'n fyw, Yn hollol gael glanhad. O edrych arnaf, Arglwydd cu, Mae bellach yn brydnawn: A llanw euog sydd heb ddim O'th nefol ddwyfol ddawn. O tyr'd yn glau, mae'n gyflawn bryd, 'Rwy'n gruddfan dan fy mhoen; A thywys fi i ffynon rad Sancteiddiaf waed yr Oen. - - - - - Agorwyd pyrth y nefoedd wiw, Mi welaf fôr o waed: A gallaf fi'r ffieiddia'n fyw, Yn hollol gael iachâd. Mae'r orsedd fawr yn awr yn rhydd, Gwrandewir llais y gwan: O cyfod bellach f'enaid prudd, Anadla tua'r làn. Ac anfon eirchion aml ri', I mewn i byrth y nef: Gwrandewir pob amddifad gri, Yn union ganddo ef. 'Rwy fel y gwiliwr ar y mur, Yn dysgwyl gwel'd y wawr; Dydd i gyhoeddi'r Iubil' fwyn, Fy ngwaredigaeth fawr. Ni fethodd gweddi daer erioed, A chyrâedd hyd y nef; Ac mewn cyfyngder f'enaid rhêd, Yn union ato ef. Mi 'nturiaf at orseddfa gras, Dan eithaf tywyll nos; Ac mi 'orphwysaf, doed a ddel, Ar haeddiant gwaed y groes. - - - - - Agorwyd pyrth y nefoedd wen, Trwy rinwedd mawr y gwaed, Fel gallwyf fi, 'r ffieiddiaf un, Nesâu gerbron y Tad. Mae'r orsedd fawr yn awr yn rhydd, Gwrandewir llais y gwan; O cyfod bellach, f'enaid prudd, Anadla tua'r lan. O anfon eirchion aml ri' I mewn i byrth y nef; Gwrandewir pob amddifad gri Yn union ganddo Ef. Am hyny, enaid, ato rhed, A'th gŵyn dod o'i flaen Ef; Ni fethodd gweddi daer erioed Gyrhaeddyd hyd y nef. - - - - - Agorwyd pyrth y nefoedd wen Trwy rinwedd mawr y gwaed; Fel gallaf fi'r ffieiddiaf un Neshau ger bron y Tad. Fe rodd ei ddwylaw pur ar led Fe wisgodd goron ddrain; Er mwyn dy gannu di yn wynn, Fel hyfryd liain main. Am hynny enaid atto rhed, A'th gwŷn dod o'i flaen ef; Ni fethodd gweddi daer erioed Gyrhaeddyd hyd yn nef. Esgyn a wnaeth i entrych ne' I eiriol dros y gwan; Fe'm dwg trwy'r tonnau mawrion maith I'w fynwes yn y man. Ac yna caf fod gyd ag ef Pan êl y byd a'r dân; Ac edrych yn ei hyfryd wedd Gan seinio bythol gân.William Williams 1717-91
Tonau [MC 8686]: gwelir: Anturiaf at ei orsedd fwyn Boed dyoddefiadau pur y groes Iesu yw 'Mrawd a 'Mhriod pur Iesu yw tegwch mawr y byd Mae'r orsedd fawr yn awr yn rhydd Mi dafla' 'maich oddi ar fy ngwar Mor hyfryd mynd o dwrf y byd Ni fethodd gweddi daer erioed O dyred Ysbryd sanctaidd pur O edrych arnaf Arglwydd mawr Os edrych wnaf i'r dwyrain draw 'Rwyf fel y gwyliwr ar y mur |
Opened were the portals of the worthy heavens, I see a sea of blood; And I may, the most detestable alive, Wholly get cleansing. O look upon me, dear Lord, It is now evening: Who am full of guilt which is without any Of thy heavenly, divine gift. O come quickly, it is fully time, I am groaning under my pain; And lead me to the free fount Of the holiest blood of the Lamb. - - - - - Opened were the portals of the worthy heavens, I sea a sea of blood: And I too, the most detestable alive, may Wholly get healing. The great throne is now free, To be heard is the voice of the weak: O arise henceforth, my sad soul, Aspire upwards. And send entreaties numerous times, Within the portals of heaven: To be listen to is every defenceless cry, Directly by him. I am like a watchman on the wall, Expecting to see the dawn; A day to announce the dear Jubilee, Of my great deliverance. No fervent prayer ever failed, To reach as far as heaven; In in straits, my soul, run, Directly to him. I will venture to the throne of grace, Under the most extremely dark night; And I will rest, come what may, On the merit of the blood of the cross. - - - - - Opened were the portals of bright heaven, Through the great merit of the blood, That I, the most detestable one, may Approach before the Father. The great throne is now free, The voice of the weak is heard; O arise now, my sad soul, Aspire upwards. O send entreaties numerous times, Within the portals of heaven; Listened to is every defenceless cry Directly by him. Therefore, thou soul, run to him, With thy complaint come before him; The earnest prayer never failed To reach as far as heaven. - - - - - The portal of bright heaven were opened Through the great merit of the blood; That I, the most detestable one, might Draw near before the Father. He spread his pure hands wide He wore a crown of thorns; In order to bleach thee white, Like delightful fine linen. Therefore, my soul, run to him, With thy complaint come before him; No intense prayer ever failed To reach as far as heaven. Ascend I shall to the vault of heaven To intercede for the weak; He will bring me through the vast great waves To his bosom in a while. And there I may be with him When the world goes on fire; And look in his delightful countenance While sounding an everlasting song.tr. 2016,20 Richard B Gillion |
|