Agorwyd pyrth y nef Trwy rin ei aberth Ef - Calfaria mwy! Trysorau mawrion drud Sy'n d'od o hyd, o hyd, Yn rhad i euog fyd - Calfaria mwy! Mae miloedd ar y llawr Yn canu'r anthem fawr, Calfaria mwy; Mor hyfryd yw eu sain, Am ol y goron ddrain, A'r chwrw bicell fain, Calfaria mwy. Y gair "Gorphenwyd" yw Sail ymffrost eglwys Dduw - Calfaria mwy! Ei air diweddaf Ef Yw penaf dant y nef, A chanant âg un llef - Calfaria mwy! Pan elo'r byd ar dân, Calfaria fydd fy nghân, Calfaria mwy; Goruwch y fflamiau i gyd Esgynaf i well byd I ganu'n bêr o hyd, - Calfaria mwy.Rowland Whittington (Egwisyn) Hymnau yr Eglwys 1892/1921
Tonau [64.6664]: gwelir: Mewn tywydd o bob rhyw |
The gates of heaven were opened Through the virtue of His sacrifice - Calvary evermore! Great, precious treasures Are coming always, always, Freely for a guilty world - Calvary evermore! There are thousands on the earth Singing the great anthem, Calvary evermore; How lovely is their sound, About the marks of the crown of thorns, And the bitter, sharp spear, Calvary evermore. The word, "It is finished" is The basis of the boast of God's church - Calvary evermore! His last word Is the chief string of heaven, And they sing with one voice - Calvary evermore! When the world goes on fire, Calvary shall be my song, Calvary evermore; Above all the flames I shall ascend to a better world To sing sweetly always, - Calvary evermore.tr. 2017 Richard B Gillion |
|