Ail ydyw fy nyddiau

(Einioes yn cilio)
Ail ydyw fy nyddiau
    I rediad y wenol,
O'r byr fyd daearol
    I'r maith fyd tragywyddol;
  Neu fel y blodeuyn
      'Nol hawddgar flodeuo,
  Yn nghanol ei degwch
      Yn darfod am dano;
Mae pob peth o'm hamgylch
    Yn amlwg yn tystio,
Mae'n fuan yn angeu
    Y byddaf yn huno.

Pe i olwg fy mhabell,
    'Nol iddi ddadfeilio,
Y deuai 'nghyfeillion,
    Gan ddwysaidd och'neidio,
  Dim cysur nis caffent
      I'w teimlad hiraethlon,
  Nis gallai galarnad
      Byth gyrhaedd fy nghalon:
O, f'enaid! mewn bywyd,
    Cais undeb â Iesu,
Efe all dy gynal,
    Pan byddont hwy'n cefnu.
Cas. o dros 2000 o Hymnau (S Roberts) 1841

[Mesur: 12.12.12.12.12.12]

(Life retreating)
Similar are my days
    To the movement of the shuttle,
From the short earthly world
    To the vast eternal world;
  Or like the flower
      After blossoming beautifully,
  In the centre of his fairness
      Being done for;
Everything around me is
    Evidently testifying,
It is soon in death
    That I shall be sleeping.

If to the sight of my tent,
    After its decay,
My companions should come,
    With intense groaning,
  No comfort would they get
      For their feelings of longing,
  Mourning could never
      Reach my heart:
O, my soul! in life,
    Seek union with Jesus,
He can uphold thee,
    When they turn their backs on thee.
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~