Am Fethlehem bydd cofio Dros oesoedd rif y gwlith, Cans yno anwyd Twysog A lywodraetha byth; Daeth Arglwydd y gogoniant Ym Methlem inni'n Frawd, A'r Hwn a wnaeth y bydoedd A aned yno'n dlawd. Fe unwyd tragwyddoleb Ac amser brau yn un Ym Methlehem Effrata Ym mherson Mab y Dyn; Y gwrthrych annherfynol, A lanwai'r ddaer a'r nef, A ddaeth mewn agwedd ddynol - Mewn preseb gwelwyd Ef. Fy enaid, cân di iddo, Wrth gofio am dydd Caed meichiau'n ôl yr arfaeth I hawlio'r caeth yn rhydd; Gogoniant am y Cariad A'n cofiodd cyn ein bod, Ond heddiw canwn foliant - Mae'r Ceidwad wedi dod. [Fy enaid, cana bellach, Wrth gofio am y dydd Caed Meichiau gwir digonol I hawlio'r caeth yn rhydd; Gogoniant am y Cariad A'n cofiodd cyn ein bod! Ond heddyw gorfoleddwn - Mae'r Ceidwad wedi dod.]William Evans 1800-80
Tonau [7676D]: |
About Bethlehem there will be remembering Over ages numerous as the dew, Since there was born a Prince Who will govern forever; The Lord of glory came In Bethlehem as a Brother for us, And the One who made the worlds Was born there poor. Eternity was united With fragile time as one In Bethlehem of Ephratah In the person of the Son of Man; The endless object, Which would fill the earth and heaven, Who came in human aspect - In a manger He was seen. My soul, sing thou to him, While remembering about the day A surety was got according to the plan To claim the captive free; Glory for the Love Which remembered us before we were, But today let us sing praise - The Saviour has come. [My soul, sing thou henceforth, While remembering about the day A true, sufficient Surety was got To claim the captive free; Glory for the Love Which remembered us before we were! But today let us rejoice - The Saviour has come.]tr. 2015 Richard B Gillion |
|