Am fy mod i mor llygredig, Ac ymadael ynddwy' i'n llawn, Mae bod yn dy fynydd sanctaidd Imi'n fraint oruchel iawn; Lle mae'r llenni yn cael eu rhwygo, Mae difa'r gorchudd yno o hyd, A rhagoroldeb dy ogoniant Ar ddarfodedig bethau'r byd. O! am bara i uchel yfed O ffrydiau'r iechydwriaeth fawr Nes fy nghwbwl ddisychedu Am ddarfodedig bethau'r llawr; Byw dan ddisgwyl am fy Arglwydd, Bod, pan ddêl, yn effro iawn I agoryd iddo'n ebrwydd A mwynhau ei ddelw'n llawn.Ann Griffiths 1776-1805
Tonau [~8787D]: gwelir: Arogli'n beraidd mae fy nardus O am bara i uchel yfed O am bara i yfed beunydd |
Since I am so corrupt, And tend to depart completely, To be in thy holy mountain Is a supreme privilege to me; Where the veils are rent, Concealment is eradicated there forever, And the excellence of thy glory Above the transient things of the world. O for me to remain on high drinking From the streams of the great salvation Until my thirst is completely quenched For the transient things of below; To live under expectation for my Lord, To be, when it happens, very alert To open to him immediately And to enjoy his image fully.tr. 2008 Richard B Gillion |
Since I'm so corrupt by naturetr. H A Hodges 1905-76
|