Am gael cynhaeaf yn ei bryd Dyrchafwn foliant byw; Fe gyfoethogwyd meysydd byd Gan fendith afon Duw. O ffynnon glir haelioni'r nef Y tardd yn hardd a byw; Ac am ei fawr ddaioni Ef Y dywed afon Duw. O! mor ddeniadol yw ei gwedd, Gan swyn o ddwyfol ryw: Pelydra heulwen gras a hedd Ar dònau afon Duw. O hon yr ŷf gronynnau'r llawr, A'r egin o bob rhyw: Nid ydyw gemog wlith y wawr Ond dafnau afon Duw. Pryd hau a medi a geir o hyd; Bendithir dynol-ryw  gwenau'r nef, holl oesoedd byd, Trwy dawel afon Duw.Hugh Cernyw Williams (Cernyw) 1843-1937
Tonau [MC 8686]: |
For having a harvest in its season Let us raise lively praise; The world's fields have been enriched By the blessing of God's river. O bright well of heaven's generosity The source beautiful and living; And for His great goodness Speaks God's river. O how attractive is thy countenance! With the charm of a divine kind: Bright sunshine radiates grace and peace On the waves of God's river. From this the earth's grains drink, And the shoots of every kind: Nor is the jewelled dew of dawn But drops of God's river. Time of sowing and reaping are still had; Humankind is being blessed With heaven's smiles, all the world's ages, Through God's quiet river.tr. 2008,10 Richard B Gillion |
|