Am graig i adeiladu

1,2;  1,3,(4),6;  1,5,6;  1,7.
(Sylfaen Safadwy)
Am graig i adeiladu,
  Fy enaid, chwilia'n ddwys;
Y sylfaen fawr safadwy
  I roddi arni 'mhwys:
Bydd melys yn yr afon
  Gael Craig a'm deil i'r lan,
Pan fyddo pob rhyw stormydd
  Yn curo ar f'enaid gwan.

Pa Dduw y'mlith y duwiau,
  Sydd debyg i'n Duw ni?
Mae'n hoffi maddeu'n beiau,
  Mae'n hoffi gwrando ein cri,
Nid byth y deil eiddigedd,
  Gwell ganddo drugarhau,
Er maint ein hanneilyngdod,
  Mae'i garaid yn parhau.

A gaiff y fath bechadur,
  Sydd ffiaidd, aflan, noeth,
O flaen dy orsedd sefyll,
  Pan elo'r byd yn boeth?
Pryd hyn caf eglur wybod
  Beth yw cyfammod rhad,
A chanu i'm Hanwylyd,
  Yn hyfryd dy fy Nhad.

Wrth geisio gwneuthur pob peth,
  'Rwy'n methu gwneuthur dim,
Wrth geisio concro 'mhechod,
  'Does ynof ronyn rym:
Wrth fyn'd at bob meddygon,
  Gwaethygu wnaeth fy nghlwy,
Anturiaf at yr Iesu, 
  Yn aflan fel yr wyf.

O'r nef mi glywais newydd
  A'm cododd ar fy nhra'd,
Fod ffynon wedi'i hagor,
  I'r cleifion gael iachad:
Fy enaid, 'hed yn ebrwydd,
  A phaid ā llwfrhau,
O'th flaen mae drws agored
  Na ddichon neb ei gau.

Am Graig yr iachawdwriaeth,
  Fy enaid egwan, cān;
Y Sylfaen fawr dragwyddol,
  A'r hyfryd gongl-faen;
Fy noddfa rhag ystormydd,
  Fy nghysgod rhag y gwres;
Mae'n ganmil
    mwy rhagorol
  Na chedyrn furiau pres.

Y Graig sy'n noddfa dawel;
  Dymunwn ganu am hon,
Pan fyddwy'n rhoddi ffarwel
  Am byth i'r ddaear gron:
O fewn y Graig nid ofnaf
  Elynion gwaetha'u gwedd;
O fewn y Graig mi ganaf
  Yn ŵyneb angau a'r bedd.
sy'n noddfa :: yw'm noddfa :: O! Noddfa
Yn ŵyneb :: Yn ngwyneb

1: Titus Lewis 1773-1811
2: David Saunders 1769-1840
3: Casgliad o Salmau a Hymnau (Daniel Rees) 1831
4: Grawn-Sypiau Canaan 1829
5: Casgliad o Hymnau (Calfinaidd) 1859
6: Dafydd William 1720-94
7: Maurice Davies -1789- , Y Bala.

Tonau [7676D]:
Aberystwyth (alaw Gymreig)
Babel (alaw Gymreig)
Heidelburg (Claude Goudimel 1514-1572)
Jabez (alaw Gymreig)
Llanfyrnach (Dewi Myrnach)
Llydaw (alaw Lydewig)
Manheim (Hans L Hessler 1564-1612)
Pen-y-Graig (Hugh Jones 1863-1933)
Pwllheli (J Francis 1789-1822)
Pont l'Abbe (alaw Llydawig)

gwelir:
  A gaiff y fath bechadur
  Am graig yr iachawdwriaeth
  Dyma o(e)dfa newydd (O Arglwydd dyro rym)
  Fy Sylfaen fawr dragwyddol
  O'r nef mi glywais newydd
  Os gwelir fi bechadur
  Pa dduw ymhlith y duwiau?
  Wel dyma oedfa newydd

(A Firm Foundation)
For a rock to build on,
  My soul, seek earnestly;
The great firm foundation
  To give me confidence:
It is sweet in the river
  To have a Rock which holds me up,
When all kinds of storm
  Are beating upon my weak soul.

What God amongst the gods,
  Is comparable to our God?
He is delighting to forgive our sins,
  He is delighting to hear our cry,
He will never hold jealously,
  He prefers mercies,
Despite the extent of our unworthiness,
  His love is enduring.

Shall such a sinner,
  Who is detestable, unclean, naked,
Before thy throne stand,
  When the world goes hot?
Then I will get clearly to  know
  What is a free covenant,
And sing to my Beloved,
  In my Father's delightful house.

While trying to do everything,
  I am failing to do anything,
While trying to conquer my sin,
  There is in me not a grain of force:
While going to every physician,
  My wound gets worse,
I will venture to Jesus,
  Unclean as I am.

From heaven I heard news
  Which raised me to my feet,
That a well has been opened,
  For the sick to get healing:
My soul, fly quickly,
  And do not lose heart,
Before thee is an opened door
  That no-one is able to shut.

For the Rock of salvation,
  My weak soul, sing!
The great, eternal Foundation,
  And the delightful corner-stone;
My refuge against storms,
  My shade against the heat;
He is a hundred thousand
    times more excellent
  Than firm walls of brass.

The Rock is a quiet refuge;
  I wish to sing about this,
When I am bidding farewell
  Forever to the round earth:
Within the Rock I shall not fear
  Enemies of the worst countenance;
Within the Rock I shall sick
  In the face of death and the grave.
is a ... refuge :: is my ... refuge :: O ... Refuge
::

tr. 2007,20 Richard B Gillion

(A Rock for a Foundation)
O seek a rock to build on,
  My soul! wilt thou not prove
That strong and deep Foundation
  Which Earth, nor Hell can move?
How sweet in yonder River
  That Rock beneath my feet,
When every doubt and terror
  Shall on my spirit beat!
tr. 1854 Joseph Morris

Also: Seek thou, my soul, in earnest
tr. Howell Elvet Lewis (Elfed) 1860-1953
Sweet Singers of Wales 1889

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~