Am yr hardd brydferth wlad, hyfryd gartref y saint, Yn awr y cyweiriaf fy nghan; Yn ei hawyr ni theimlir ystormydd na haint, Tra y rhed tragwyddoldeb yn mlaen. Tra y rhed tragwyddoldeb yn mlaen; Yn ei harwyr ni theimlir ystormydd na haint, Tra y rhed tragwyddoldeb yn mlaen. Hyfyrd gartref y saint, mae llygad yn sỳn Ar berlau ei muriau a'u bri; Ac wrth syllu 'rwy'n tybied nad ydyw y glyn Onid cul rhwng y ddinas a mi. Yn ei chanol mae'r pren sydd o fwyd yn llawn, A'i hafon mor ddisglaer ei lli'; Canys poen a marwolaeth nid â byth i mewn, Na drygioni ni cheir ynddi hi. O fy enaid, yn aros am danat yn awr Mae'r nefoedd, ei mawredd a'i bri; - Mae yr Iesu yn Arglwydd trwy'r nefoedd a'r llawr, Ac mae'n cadw dy goron i ti. O mor felus y fraint, draw yn nghartref y saint, Fydd byw heb un pechod na chlwy', A chael canu i'r Iesu, a dyblu ein can, Ac heb ofni ymadael byth mwy.Efel. John Roberts (Ieuan Gwyllt) 1822-77 Swn y Juwbili 1876 Tôn: Cartref y Saint |
About the splendid, beautiful land, the delightful home of the saints, Now I shall tune my song; In its air is never felt, storms or disease, While eternity runs on. While eternity runs on; In its air is never felt, storms or disease, While eternity runs on. The delightful home of the saints, an eye is astonished At the pearls of its walls and their honour; And while staring I suppose there is no vale Except a narrow one between the city and me. In its centre is the tree which is full of food, And its river so radiant its flow; Since pain and death never go inside, Nor are evils to be found in it. O my soul, near to thee now Is heaven, its majesty and its renown; - Jesus is Lord throughout heaven and the earth, And he is keeping thy crown for thee. O how sweet the privilege, yonder in the home of the saints, Living with no sin or sickness, And getting to sing to Jesus, shall double our song, And without fear of ever leaving any more.tr. 2016 Richard B Gillion |
cf. Jerusalem my happy home On Jordan's stormy banks I stand There is a land of pure delight |