Anfeidrol Iôr y nef a'r llawr

(Gorffen yr yrfa yn dda)
Anfeidrol Iôr y nef a'r llawr,
O gwrando Di ein llef yn awr;
  Gad i ni gael diweddu'n gwaith
  A'n gyrfa mewn gorfoledd maith.

Moes i ni brawf
    tu yma i'r bedd
O'th werthfawr hoff felusaf hedd;
  A doed o'n cylch D'oleuni cu,
  O nefol Dad, yn angeu du.

Pan ddelom i ddiweddu'n dydd,
Diweddu'n ffordd, diweddu'n ffydd,
  I deyrnas nef, O derbyn ni,
  Ar felus dant, i'th foli di.
Benjamin Francis 1734-99

Tôn [MH 8888]: Luther's Chant
    (Henirich C Zeuner 1795-1857)

(Finishing the course well)
Immeasurable Lord of heaven and earth,
O hear thou our cry now;
  Let us get to end our work
  And our course in great joy.

Give to us an experience
    on this side of the grave
Of thy precious, dear, sweetest peace;
  And may thy light come to encircle us,
  O heavenly Father, in black death.

When we come to end our day,
To end our way, to end our faith,
  To the kingdom of heaven, O receive us,
  On a sweet string, to praise thee.
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~