Ar ddechreu ein haddoliad

Ar ddechreu ein haddoliad,
  O, Arglwydd, anfon Di
Dy Ysbryd i dymheru
  'N calonau celyd ni;
Ireiddia ein hysbrydoedd,
  A sanctaidd wlith y nef;
Rho fod y mud dafodau,
  Yn foliant iddo Ef.

Arddeler gweinidogaeth
  Dy weision, Arglwydd Ior;
Wrth ddweyd am odidowgrwydd
  Y gras sydd ini'n stor:
Disgyned yr eneiniad
  Yn esmwyth îr i lawr;
Cyfrana i Dy bobl
  O'r dwfn lawenydd mawr.

Corona ddisgwyliadau
  Dy eglwys, Arglwydd mawr;
Cyflawna ei gobeithion,
  Rho wel'd Dy wedd yn awr:
Datguddia ini harddwch
  Yr iachawdwriaeth gaed;
A chàna ddu eneidiau
  Yn wynion yn y Gwaed.
Gwilym Owen (Tegfryn)

Tôn [7676D]: Wakeley (Daniel Protheroe 1866-1934)

At the beginning of our worship,
  O Lord, send thou
Thy Spirit to temper
  Our hard hearts;
Anoint our spirits,
  With the holy dew of heaven;
Grant that the mute tongues be
  Praise unto Him.

Owned be the ministry
  Of Thy servants, Sovereign Lord;
Telling of the magnificence
  Of the grace which is a store for us:
Let the anointing descend
  Smoothly freshly down;
Distribute to Thy people
  From the great, deep joy.

Crown the expectations
  Of Thy church, great Lord;
Fulfil her hopes,
  Grant the seeing of Thy face now:
Reveal to us the beauty
  Of the salvation to be had;
And bleach black souls
  White in the Blood.
tr. 2014 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~