Ar fin yr hen Iorddonen ddofn, 'Rwy'n gruddfan ddydd a nos, Yn teimlo weithiau chwant myn'd trwy, Ond eto'n ofni'r loes. O na bai modd i mi yn awr, Ysgoi ei chenllif cry', A 'hedeg uwch ei thònau mawr, I'r lân breswylfa fry. Wrth imi gofio grym y dw'r, A'r tònog genllif mawr, A'r mynych rymus ddewrwych ŵr, A suddodd ynddi i lawr. 'Rwy'n teimlo arswyd tàn fy mron, Wrth gofio hon mae'n wir, Rhag ofn mai boddi ynddi wnaf, Cyn cyrhaedd Canaan dir. Ond pan y gelwyf draw o bell, Fy hen gyfeillion gwiw, Aeth trwyddi'n lluoedd o fy mlaen, Heb arnynt boen na briw. 'Rwy'n teimlo hiraeth y pryd hyn, Am wel'd yr hyfryd awr, Y derfydd i mi ofni mwy, Yr hen Iorddonen fawr.William Thomas 1790-1861 Llyfr Emynau 1823 [Mesur: MC 8686] |
On the edge of the old deep Jordan, I am groaning dy nd night, Feeling sometimes n urge to go through, But still fearing the anguish. O that there were some means for me now, To avoid its strong torrent, And fly above its great waves, To the holy dwelling-place above. As I remember the force of the water, And the great billowing torrent, And the manifold strong brilliantly brave men, Who sank down in it. I am feeling horror under my breast, On remembering this, it is true, Lest I drown in it, Before reaching the land of Canaan. But when I see yonder from afar, My old worthy friends, Who went through it as hosts before me, With neither pain nor bruise upon them. I am feeling longing at this time, To see the delightful hour, When my fear shall cease forever Of the great old Jordan.tr. 2023 Richard B Gillion |
|