Ar gyfer heddiw'r bore 'n faban bach, faban bach, Y ganwyd gwreiddyn Iesse 'n faban bach; Y Cadarn ddaeth o Bosra, Y Deddfwr gynt ar Seina, Yr Iawn gaed ar Galfaria 'n faban bach, faban bach, Yn sugno bron Maria 'n faban bach. Caed bywiol ddŵfr Eseciel ar lin Mair, ar lin Mair, A gwir Feseia Daniel ar lin Mair; Caed bachgen doeth Eseia, 'R addewid roed i Adda, Yr Alffa a'r Omega ar lin Mair, ar lin Mair; Mewn côr ym Meth'lem Jiwda, ar lin Mair. Gorffwyswch, bellach, Lefiaid, Cafwyd Iawn, cafwyd Iawn, Nid rhaid wrth anifeiliaid, Cafwyd Iawn; Diflannu a wnaeth y cysgod, Mae'r sylwedd wedi dyfod, Nid rhaid wrth ŵyn na buchod, Cafwyd Iawn, cafwyd Iawn, Na theirw na thurturod, Cafwyd Iawn. Ystyriwn gariad Trindod O'u gwir fodd, o'u gwir fodd Yn trefnu'r ffordd y cymod O'u gwir fodd; Y Tad yn ethol meichie, Y Mab yn fodlon diodde, A'r Ysbryd Glân ei ddonie, O'u gwir fodd, o'u gwr fodd Yn tywys Seion adre O'u gwir fodd. Diosgodd Crist o'i goron, o'i wirfodd, o'i wirfodd, Er mwyn coroni Seion, o'i wirfodd; I blygu'i ben dihalog O dan y goron ddreiniog I ddioddef dirmyg llidiog, o'i wirfodd, o'i wirfodd, Er codi pen yr euog, o'i wirfodd. O cofiwn Gethsemane Lle bu ef, lle bu ef Yn chwysu'r gwaed yn ddagre, Lle bu ef, Ac am y fflangell greulon Yn arddu cefn y cyfion Ar hyd heolydd Seion, Lle bu ef, lle bu ef, A'i gnawd yn gwysi hirion, Lle bu ef. Hawdd olrhain ei gerddediad Hyd y llys, hy y llys, Gan lwybr coch orlifiad Hyd y llys, Lle cafodd Iesu cyfion Ei watwar gan elynion A tharo'i wyneb tirion Yn y llys, yn y llys, Er dirmyg ar ei berson Yn y llys. O'r llys at orsedd Pilat Er ein mwyn, er win mwyn, Taenellwyd gwaed ein Ceidwad Er ein mwyn; Lle bu y Duw anfeidrol Yn goddef barn angheuol Gan ei greadur meidrol Er ein mwyn, er ein mwyn, Yn fud fel caeth troseddol Er ein mwyn. O dacw'r Oen mewn dalfa Er ein mwyn, er ein mwyn, Yn esgyn pen Calfaria Er ein mwyn, I ddioddef dwyfol loesion Ar ben y groes rhwng lladron, Y bicell fain a'r hoelion Er ein mwyn, er ein mwyn, A cholli gwaed ei galon Er ein mwyn. Gorweddodd yn y beddrod Er ein mwyn, er ein mwyn, I dynnu'r damp o'i waelod Er ein mwyn; Yn awr mae ar ei orsedd Yn cynnig rhad drugaredd, Maddeuant a thangnefedd Er ein mwyn, er ein mwyn, I'r adyn mwyaf ffiaidd, Er ein mwyn. Cyfiawnder a fodlonwyd 'Waith ei Iawn, 'waith ei Iawn, A'r ddeddf a anrhydeddwyd 'Waith ei Iawn; Mae uffern fawr yn crynu A'r durtur bêr yn canu A Duw a dyn yn gwenu 'Waith ei Iawn, 'waith ei Iawn, Mewn hedd yn mherson Iesu 'Waith ei Iawn. Am hyn, bechadur, brysia, fel yr wyt, fel yr wyt, I 'mofyn am dy Noddfa, fel yr wyt I ti'r agorwyd ffynnon A ylch dy glwyfau duon Fel eira gwyn yn Salmon, fel yr wyt, fel yr wyt, Gan hynny, tyrd yn brydlon, fel yr wyt. faban bach :: maban bach Jiwda :: Iwda David Hughes (Eos Iâl) 1794?-1862
Tonau [7373.777373]: |
For the sake of this very morning As a little baby, a little baby Was born the root of Jesse As a little baby; The Strong one who came from Bosra, The Lawmaker of old on Sinai, The Redemption to be had on Calvary As a little baby, a little Baby, Suckling the breast of Mary, As a little Baby. The life-giving water of Ezekiel is found On Mary's knee, on Mary's knee, And the true Messiah of Daniel On Mary's knee; Here is the wise boychild of Isaiah, The promise made to Adam, The Alpha and Omega On Mary's knee, on Mary's knee; In the stall in Beth'lem of Judah, On Mary's knee. Rest, henceforth, ye Levites, Atonement was made, atonement was made, No need for animals, Atonement was made; The shadow has vanished, The substance has come, No need for lambs or cows, Atonement was made, atonement was made, Or bulls or turtle-doves, Atonement was made. Let us consider the love of the Trinity Of their free will, of their free will In arranging the way of the covenant Of their free will; The Father electing a surety, The Son willing to suffer, And the Holy Spirit his gifts, Of their free will, of their free will, Leading Zion home Of their free will. Christ took off his crown, Of his free-will, of his free-will, In order to crown Zion, Of his free-will; To bow his undefiled head Under the thorny crown To suffer enraged derision, Of his free-will, of his free-will, To raise the head of the guilty, Of his free-will. O let us remember Gethsemane Where he was, where he was Sweating the blood as tears, Where he was, And the cruel scourge Digging up the back of the righteous one Along the streets of Zion, Where he was, where he was, With his flesh as long furrows, Where he was. Easy to trace his walk As far as the court, as far as the court, By the path of a red overflow As far as the court, Where Jesus the righteous one was Mocked by his enemies And his tender face struck In the court, in the court, To scorn his person In the court. From the court to the throne of Pilate For our sake, for our sake, The blood of our Saviour was poured out For our sake; Where the immortal God was Suffering deathly judgment By the mortal creature For our sake, for our sake, Mute like a captive transgressor For our sake. O yonder is the Lamb in custody For our sake, for our sake, Ascending the head of Calvary For our sake, To suffer mortal anguish Upon the cross between thieves, The sharp spear and the nails For our sake, for our sake, And shedding the blood of his heart For our sake. He lay in the tomb For our sake, for our sake, To draw the damp from its bottom For our sake; Now he is on his throne Offering free mercy, Forgiveness and peace For our sake, for our sake, To the most detestable reprobate, For our sake. Righteousness was satisfied By the work of his atonement, by the work of his atonement, And the law was honoured By the work of his atonement; Great hell is trembling And the sweet turtle-dove singing And God and man smiling By the work of his atonement, by the work of his atonement, In peace in the person of Jesus By the work of his atonement. Therefore, sinner, hurry, As thou art, as thou art, To ask for his Sanctuary, As thou art; For thee the well was opened Which washes thy black wounds Like the white snow on Salmon, As thou art, as thou art, For that, come promptly, As thou art. little baby :: my little baby :: tr. 2008,23 Richard B Gillion |
|