Arglwydd bywyd, Deyrn gogoniant, Buost blentyn yn y byd; Deulin Mam a fu d'orseddfainc, Dwyfron Mam dy sanctaidd grud; Am y plant, i ni a roddaist, Cyfrif rown i Ti ryw bryd. Fyth er pan fu'r Fam Fendigaid Yn dy ddysgu a'th fagu Di, Urddaist wragedd ag anrhydedd, Roddaist arnynt ddwyfol fri; Ac i ymddwyn fyth yn deilwng, Cael dy nerth sy raid i ni. Rho in g'lonnau pur, goddefus; Ym mhob gair a phopeth wnawn Boed i eneidiau bach ein dilyn, Fyth heb grwydro, drwy dy ddawn Dilyn wnelont yn ein camau 'R hyd y llwybyr cul yn iawn. Cadwer fyth ein galwad sanctaidd Yn ddi-fai mewn urddas mawr; Ac na ddelo'n gwaith i'w derfyn Nes cael rhoi ein baich i lawr; Boed y plant a roist yn goron O lawenydd gyda'r wawr.John William Wynne-Jones 1849-1928 Tôn [878787]: Mariners (alaw Italaidd) |
Lord of life, Monarch of glory, Thou wast a child in the world; A mother's knee was thy throne, A mother's breasts thy sacred cradle; For the children, to us thou gavest, An account we shall give to thee some time. Ever since the blessed mother Taught thee and brought thee up, Thou didst dignify women with honour, Thou didst put upon them divine renown; And to behave forever worthily, It is necessary for us to have thy strength. Give us pure, patient hearts; In every word and everything we do May little souls follow us, Forever without wandering, through thy gift May they follow in our steps Along the narrow and true path. Our sacred calling be forever kept Faultless in great dignity; And may our work never come to its end Until getting to put our burden down; May the children thou gavest be a crown Of joy with the dawn.tr. 2020 Richard B Gillion |
|