Arglwydd, cadw yn y 'storom F'enaid dan dy aden gu; Cadw ynof ysbryd gweddi, Nes y delwyf atat Ti: Estyn allan fraich dragwyddol, Dal fi ar y cefnfor maith, N'ad i'm llong i fyn'd yn chwilfriw Nes im' gyrhaedd pen fy nhaith. Digon imi ydyw'r Iesu, Yn y dŵr ac yn y tân; Digon yw i'm henaid egwan, Ar y ffordd wrth fyn'd yn mlaen; Digon yw yn afon angeu; Digon yn y farn a ddaw; Ac fe bery byth yn ddigon, Yn y wlad sy'r ochr draw. Arglwydd Iesu, bydd dy hunan Yn Arweinydd ffyddlon im'; Dan dy gysgod mae fy noddfa Yn y stormydd mwya'u grym; Cadw ngolwg ar yr hafan, Lle mae'm tynfa, doed a ddêl; Tiroedd hyfryd yr addewid, Gwlad yn llifo o laeth a mel.efel. John Hughes 1776-1843 o | from Dafydd William 1720-94 Diferion y Cyssegr 1807
Tonau [8787D]: gwelir: Arglwydd Iesu bydd dy hunan Nid oes genyf ond dy hunan |
Lord, keep in the storm My soul under thy dear wings; Keep within me a spirit of prayer, Until I come to Thee: Stretch out thy eternal arm, Hold me on the vast ocean, Do not let my ship be shattered Before I arrive at my destination. Sufficient for me is Jesus, In the water and in the fire; Sufficient he is for my weak soul, On the road while going onwards; Sufficient he is in the river of death; Sufficient in the coming judgment; And he shall continue forever sufficient, In the land which is on yonder side. Lord Jesus, be thyself A faithful Guide to me; Under thy shadow is my refuge In the storms of greatest force; Keep my sight on the harbour, Where my attraction is, come what may; The delightful lands of promise, A country flowing with milk and honey.tr. 2020 Richard B Gillion |
|