Arglwydd, Crëwr doeth y bydoedd! Achos mawr y cwbl oll! Yn dy natur nid oes diffyg, Yn dy waith ni welir coll; 'R wyt yn ffynon it' dy hunan O ddedwyddwch pur a llawn; Annibynol, digyfnewid, Ydwyt fore a phrydnhawn. Dengys daear, dengys nefoedd, Dy ogoniant, o fy Nuw, Dylai dynion dy ryfeddu, Ac yn ufydd i ti fyw; Dylem barchu Un mor uchel, Plygu'n ddidwyll ger ei fron; Caru Un sydd oll yn hawddgar, A'i was'naethu ef yn llòn. Agor lygaid ein meddyliau, Gâd in' wel'd dy degwch di; Cymer feddiant o'n calonau, Bydd yn Rhan am byth i ni'; Trwy dy ras plyg ein hysbrydoedd, Dan dy driniaeth b'om o hyd; O addasa ni yn hollol, I'th fwynhau mewn bythol fyd.Evan Griffiths (Ieuan Ebblig) 1795-1873 Casgliad E Griffiths 1855 [Mesur: 8787D] |
Lord, wise Creator of the worlds! Great cause of the entire whole! In thy nature is no deficiency, In thy work no loss is to be seen; Thou art a fount for thyself Of pure and full happiness; Independent, unchangeable, Art thou morning and evening. Earth shows, heaven shows, Thy glory, from my God, Men ought to wonder at thee, And obedient to thee live; We should reverence One so high, Bow sincerely before thee; Love One who is all beautiful, And serve him cheerfully. Open the eyes of our thoughts, Let us see thy fairness; Take possession of our hearts, Be a Portion forever to us; Through thy grace bend our spirits, Under thy treatment let us be always; O adapt us completely, To enjoy thee in an eternal world.tr. 2016 Richard B Gillion |
|