Arglwydd, dysg i mi weddïo Priod waith pob duwiol yw: Treulio 'nyddiau oll i'th geisio A mawrygu d'enw gwiw; Dedwydd ydyw A ddisgwylio wrthyt ti. Gad im droi i'm stafell ddirgel, Ti a minnau yno 'nghyd, Profi gwerth y funud dawel Pan fo'n drystfawr oriau'r byd; Rho im glywed Neges y distawrwydd dwfn. Rho im ddyfal daerni'r Iesu, Gofyn am a geisiai ef, Cael y ffydd nad yw yn methu Agor euraid byrth y nef; Yn ei enw Popeth nef a daear gaf.Richard Samuel Rogers 1882-1950
Tonau [878747]: |
Lord, teach me to pray The proper work of all the godly it is: To spend my all my days to seek thee And magnify thy worthy name; Happy is one Who waits upon thee. Let me turn to my secret room, Thou and I there together, Experiencing the worth of a quiet minute During the greatly turbulent hours of the world; Grant me to hear The message of the deep silence. Grant me the diligent persistence of Jesus, To ask for what he would seek, To get the faith that does not fail To open the golden portals of heaven; In his name Everything of heaven and earth I shall get.tr. 2021 Richard B Gillion |
|