Arglwydd mae yn nosi

1,2,3,(4,5,),6.
(Emyn Hwyrol)
Arglwydd, mae yn nosi,
  Gwrando ar ein cri;
O bererin nefol,
  Aros gyda ni.

Llosgi mae'n calonnau
  Gan dy eiriau di;
Mwy wyt ti na'th eiriau,
  Aros gyda ni.

Hawdd, wrth dorri'r bara,
  Yw d'adnabod di;
Ti dy hun yw'r manna,
  Aros gyda ni.

Gwywo mae pleserau,
  A breuddwydion bri:
Ti yw'r pleser gorau -
  Aros gyda ni.

Mae ein hoff gyfeillion
  Wedi croesi'r lli:
Ti yw'r Cyfaill ffyddlon -
  Aros gyda ni.

Pan fo'n diwrnod gweithio
  Wedi dod i ben,
Dwg ni i orffwyso
  Atat ti, Amen.
Howell Elvet Lewis [Elfed] 1860-1953
Trysorfa'r Plant, Mehefin 1894.

Tonau:
Bemerton (Friedrich Filitz 1804-76)
Gosper / Hwyr Weddi (Caradog Roberts 1878-1935)
Hadley (T H Watkins 1862-1935)

(Evening Hymn)
Lord, it is becoming night,
  Listen to our cry;
O heavenly pilgrim,
  Abide with us.

Burning are our hearts
  By thy words;
Greater art thou than thy words,
  Abide with us.

Easy, while breaking bread,
  It is to recognize thee;
Thou thyself art the manna,
  Abide with us.

Wilting are pleasures,
  And nice dreams:
Thou art the best pleasure -
  Abide with us.

Our fond companions
  Have crossed the tide:
Thou art the faithful Friend
  Abide with us.

When the day of working
  Be come to an end,
Bring us to rest
  To thee, Amen.
tr. 2024 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~