Arglwydd rhyddhâ fy enaid caeth

Arglwydd rhyddhâ fy enaid caeth
  Sy'n flin gan faith gaethiwed;
Gan weddill pechod trist iawn wy' -
  Ys truan, pwy a'm gwared?

Fy llygredd sydd fel tywell nos
  Yn codi dros fy enaid;
Methu dy wel'd -  hyn yw fy nghlwy' -
  Ys truan, pwy a'm gwared?

Pan geisiwyf dd'od at DDUW trwy ffydd,
  I 'mofyn budd i'm henaid;
Drwg yn bresenol profi 'rwy' -
  Ys truan, pwy a'm gwared?

O brysia, ARGLWYDD yn ddilys,
  A thyr'd ar frys i'm gwared;
Gad im' dy brofi'n oll yn oll,
  Tyn fi o'm holl gaethiwed.
Mr John Jones, Sir Gaerfyrddin, -1747-
Aleluia 1749

[Mesur: MS 8787]

Lord, free my captive soul
  Which is weary of long captivity;
Because of remaining sin very sad am I -
  I am wretched, who shall deliver me?

My corruption is like a dark night
  Rising over my soul;
Failing to see thee - this is my sickness -
  I am wretched, who shall deliver me?

When I try to come to my God through faith,
  To ask for benefit for my soul;
Present evil I am experiencing -
  I am wretched, who shall deliver me?

O hurry, Lord, unfailingly,
  And come quickly to deliver me;
Let me experience thee as all in all,
  Draw me out of all my captivity.
tr. 2015 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~