Arglwydd tirion, yn y bore Trown ein hwyneb atat Ti: Dyro Dithau yn ei oleu O Dy wenau arnom ni: Boed y llewyrch, sydd ar lwybrau Anfarwolion glân y nef, Ar ein llwybrau tywyll ninnau, I'n goleuo tua thref. Boed i'r ddaear faith ddistewi, Er mwyn gwrando ar Dy lef; Boed eneidiau heddyw'n holi Am dangnefedd pur y nef: Boed i'n calon flin orffwyso Yn Dy gyntedd, yn Dy hedd, Pan yn cofio'r Gwr fu'n rhodio Fore'r trydydd dydd o'r bedd.Thomas Mafonwy Davies (Mafonwy) 1862-1931 Tôn [8787D]: Corinth ("Church Plain Chant" 1782) |
Tender Lord, in the morning We turn our face unto Thee: Give thou also in its light Of thy smiles upon us: May the radiance, which is on the paths Of the holy immortals of heaven, Be upon our dark paths also, To enlighten us towards home. May the vast earth fall silent, In order for us to listen to thy cry; May souls today be asking For the pure tranquility of heaven: May our weary hearts rest In thy courts, in thy peace, When remembering the Man who walked On the morning of the third day from the grave.tr. 2020 Richard B Gillion |
|