Aros Iesu yn y rhyfel, F'enaid yn lluddiedig sydd; Ti biau d'rysu fy ngelynion, Ti biau'r enw, ti biau'r dydd: Yn dy ddawn, unig cawn, Fuddugoliaeth werthfawr iawn. Minau gerddaf trwy'r byddinoedd, Ond it' gerdded o fy mlaen; Mae dy gamrau'n tori'r ṭnau, Mae dy gamrau'n diffodd tân; 'N ol dy droed, gwna i mi dd'od, Fy hyfrydwch mwya' erioed. Mae dy air yn abl f'arwain, Trwy'r anialwch mawr yn mlaen, Mae e'n golofn oleu eglur, Weithiau o niwl ac weithiau o dân Mae'n ddiblê, ynddo fe, Fwy na'r ddaear, fwy na'r ne'. Da i mi fod yr addewid, Wedi ei rhoddi gan fy Nuw, A bod gair o enau'r Brenin, Uwch gelynion o bob rhyw; Ei 'ddewid ef, gadarn gref, Arwain eiddil gwan i'r nef. Tyred, Arglwydd, ar amseroedd, Mae fy enaid am fwynhau, Pur dangnefedd heb demhestloedd, Cariad hyfryd a didrai; Gwledd o hedd, tu yma i'r bedd, Nad oes ond dy blant a'i medd. - - - - - Aros, Iesu! yn y rhyfel, F'enaid yn lluddiedig sydd; Ti biau d'rysu fy ngelynion, Ti biau'r enw, ti biau'r dydd: Yn dy ddawn, 'n unig cawn, Floeddio buddugoliaeth lawn. O! na ddeuai'r dyddiau dedwydd, I deyrnasoedd daear lawr Wir adnabod Crist yr Arglwydd, Plygu i'r Messia mawr; Pawb yn llu, o'r un tu, Yn molianu Iesu cu.William Williams 1717-91
Tonau [8787337]: gwelir: Da i mi fod yr addewid Mae dy air yn abl f'arwain Mi dybygwn gwelai'r bore O na b'ai gwybodaeth Iesu O na ddeuai'r dyddiau dedwydd Tyred Arglwydd ar amseroedd Y mae hiraeth yn fy nghalon |
Stay, Jesus, in the battle, My soul is exhausted; It belongs to thee to confound my enemies, To thee belongs the name, to thee belongs the day: In thy ability alone I would get A very valuable Victory. I shall walk through the armies, If only thou walk before me; Thy steps are breaking the waves, Thy steps are extinguishing fire; After thy feet, make me come, My greatest ever delight. Thy word is able to lead me, Through the great desert onward, It is a clear pillar of light, Sometimes of cloud and sometimes of fire; There is doubtless, in it, More than the earth, more than heaven. It is good for me that the promise, Has been given by my God, And that the word of the King's mouth is Above enemies of every kind; His firm, strong promise Shall lead a feeble soul to heaven. Come, Lord, at the times when My soul wants to enjoy Pure peace without tempest, Delightful and unebbing love; A feast of peace, this side of the grave, None but thy children possess it. - - - - - Stay, Jesus, in the battle! My soul is exhausted, To thee belongs confounding my enemies, To thee belongs the name, to thee belongs the day: In thy gift alone I may Shout full victory. O that the happy days would come To the kingdoms of earth below! Truly to recognise Christ the Lord, To bow to the great Messiah; Everyone as a host, on the same side,tr. 2016,19 Richard B Gillion |
|