At wedd dy wyneb nid yw ddim, Drysorau maith y llawr, Mae gair o'th enau'n llawer mwy Ei rym nag uffern fawr. Os edrych wnaf i'r Dwyrain draw, Os edrych wnaf i'r De, Yn mhlith a fu, neu ynte ddaw, 'Does debyg iddo fe. Ni feddaf ar y ddaear lawr, Ni feddaf yn y ne', Neb ag a bery'n anwyl im', Yn unig ond efe. Mae ynddo'i hunan drysor mwy, Nag fedd yr India lawn; Fe brynodd i mi fwy na'r byd, Ar groesbren un brydnawn. Fe brynodd imi euraidd wisg, Trwy ddyoddef marwol glwy'; Ei angau Ef a guddia'm gwarth I dragwyddoldeb mwy. 'Does gennyf mwy ond Duw yn dad, Yn erbyn pob rhyw wae; Na dim ond grym ei gariad rhad Yn sylfaen i barhau. O na allwn rodio er ei glod, Ac iddo bellach fyw; A threulio mywyd gyd â blas, I ganmol gras fy Nuw. ddaear lawr :: ddaear fawr brydnawn :: prydnawn Tôn [MC 8686]: Ebenezer New (<1829)
gwelir: |
To the likeness of thy face there is nothing, Vast treasures of the earth, The word of thy mouth is much more In its force than great hell. If I do look to the far East, If I do look to the south, Amongst what has been, or then what comes, Nothing resembles him I possess nothing on the earth below, I possess nothing in heaven, No-one either who will remain dear to me, Except him alone. In him himself is treasure more, Than full India possesses; He purchased for me more than the world, On the wooden cross one afternoon. He purchased for me golden clothing, Through suffering a mortal wound; His death will hide my shame To eternity henceforth. I no longer have but God as father, Against every kind of woe; Nor anything but the force of his free love As a foundation to endure. O that I might travel for his praise, And for it further live; And spend all my life with taste, To praise my God's grace. earth below :: great earth :: tr. 2009,19 Richard B Gillion. |
|