At bwy f'anwylyd Iesu, Yr âf o'th ŵydd a'th dŷ? Rhyw erchyll nos sy'n nesu, O colla' i'th wyneb cu: Mae'r byd yn llawn diffeithwch A d'rysni oll i gyd; Nid oes ond ti a'th heddwch A all sirioli 'mryd. Tydi yw llyw fy enaid, Ar fôr o donnau'n llawn, Sy'n curo arna' i'n ddibaid, Foreuddydd a phrydnawn: Tydi yw'r "ffordd a'r bywyd:" I b'le i grwydro'r âf? Yr wyf yn waeth nâg ynfyd, Os gadael Crist a wnaf. Tydi yw ffynnon hyfryd Yr Iachawdwriaeth fawr, I fyrdd yn rhoddi bywyd Pan maent ar soddi i lawr. Dywysog mawr tangnefedd, Dad trag'wyddoldeb maith, Os palli di'th ymgeledd, At bwy cyfeiria' 'i nhaith? Tydi yw'r Seren forau Sy'n arwain myrdd yn lân, Trwy ddyffryn cysgod angau, I fro'r drag'wyddol gân; - Tydi a'th waed yw testun Caniadau'r nefoedd wen: Fy Mrawd, fy Nuw, fy Mrenin, Boed iti'r mawl. Amen.Daniel Evans (Daniel Ddu o Geredigion) 1792-1846 Gwinllan y Bardd 1831 [Mesur: 7676D] |
To whom my dear Jesus, Shall I go from thy presence and thy house? Some terrible night is coming, From missing thy dear face: The world is full of desolation And all confusion altogether; There is not but thee and thy peace That can cheer my mind. Thou art the helm of my soul, On a sea full of waves, That are beating upon me ceaselessly, Morning and evening: Thou art the "way and the life:" Where shall I go to wander? I am worse than desperate, If I leave Christ. Thou art the delightful fount Of the great Salvation, To a myriad giving life When they are sinking down. Great Prince of peace, Father of a vast eternity, If thou fail thy succour, To whom shall I direct my journey? Thou art thy morning Star That leads a myriad up, Through the valley of the shadow of death, To the vale of eternal song; - Thou with thy blood art the theme Of the songs of bright heaven: My Brother, my God, my King, To thee be the praise. Amen.tr. 2020 Richard B Gillion |
|