Addfwyn Iesu galw ni i'th gorlan gu

(Addfwyn Iesu, gwrando.)
Addfwyn Iesu, galw
  Ni i'th gorlan gu;
Gelwaist lu yn rasol
  Yn y dyddiau fu;
Er yn wan, dilynwn
  Ninnau ar dy ôl;
Cryf wyt i'n gwaredu
  Rhag pob crwydro ffôl.

    Addfwyn Iesu, galw,
      Deuwn atat Ti,
    Aros yn dy gariad
      Ddyddiau'n hoes wnawn ni.

Galw ni, blant bychain,
  Galw ni yn awr;
Gobaith sydd yn ddisglair
  Gan belydrau'r wawr:
Engyl sydd yn gweini'n
  Ffyddlon arnat Ti;
Dyro le i ninnau
  Yn dy winllan Di.

Galw, addfwyn Iesu,
  Iesu'r preseb tlawd;
Galw beunydd arnom,
  Iesu hardd, ein Brawd,
Ar y groes y clywsom
  Lais dy gariad mawr;
Galw fel y mynni
  Arglwydd galw'n awr.
Efel. W Wyn Williams 1878-1936

Tonau [11.11.11.11 + 11.11]:
Rachie (Caradog Roberts 1878-1935)
Rossini (o Rossini)

(Gentle Jesus, listen.)
Gentle Jesus, call
  Us to thy dear fold;
Thou didst call a host graciously
  In days past;
Although weak, we will follow
  We after thee;
Strong art thou to deliver us
  From every foolish wandering.

    Gentle Jesus, call,
      We shall come to Thee,
    Stay in thy love
      The days of our life shall we.

Call us, little children,
  Call us now;
Hope is shining brightly
  With the rays of the dawn:
Angels are serving
  Faithful to Thee;
Give a place to us
  In Thy vineyard.

Call, gentle Jesus, 
  Jesus the crib of the poor;
Call daily to us,
  Beautiful Jesus, our Brother,
On the cross we heard
  The voice of thy great love;
Call like thou wilt insist
  Lord call now.
tr. 2009 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~