Agorodd ddrws i'r caethion

1,2,3,4,5;  1,4,6,(2).
(Addasrwydd y Gwaredwr)
Agorodd ddrws i'r caethion
  I ddod o'r cystudd mawr;
Ā'i werthfawr waed fe dalodd
  Eu dyled oll i lawr:
Nid oes dim damnedigaeth
  I neb o'r duwiol had;
Y gwaredigion canant
  Am rinwedd mawr ei waed.

Fe genir ac fe genir,
  Yn nhrag'wyddoldeb maith,
Os gwelir un pererin,
  Mor llesg ar ben ei daith;
A gurwyd mewn tymhestloedd,
  A olchwyd yn y gwaed,
A ganwyd ac a gadwyd,
  Trwy iachawdwriaeth rad.

Ce's ddw'r o'r graig i yfed,
  I dorri'm syched mawr,
Ce's beunydd fara i'w fwytta,
  O'r nef y daeth i lawr;
Ce's delyn tu yma i angau,
  Fy holl gystuddiau ffodd,
I ganu i'r Oen fu farw,
  Mae'n briod wrth fy modd.

Wel dyma Un sy'n maddau
  Pechodau rif y gwlith;
'D oes mesur ar ei gariad,
  Na therfyn iddo byth;
Mae'n 'mofyn lle i dosturio,
  Mae'n hoffi trugarhau';
Trugaredd i'r amddifaid
  Sydd ynddo i barhau.

Brawd anwyl sy'n ein cofio,
  Mewn oriau cyfyng caeth,
Brawd llawn o gyd-ymdeimlad,
  Ni chlywyd am ei fath:
Brawd cadarn yn y frwydr,
  Ne geidw ei frodyr gwan,
Yn dirion dan ei aden,
  Fe ddaw ā'r llesg i'r lan.

Teilwng yw'r Oen a laddwyd
  O'r holl ogoniant mawr,
Trwy ganol nef y nefoedd,
  Ac yma ar y llawr;
Pan elo'r holl greadigaeth
  Yn ulw gan y tān,
Teilyngdod Iesu drosof
  Fydd fy nhragwyddol gān.
Y gwaredigion canant :: Fe gān y gwaredigion
Wel dyma Un :: Dyma yr un

Morgan Rhys 1716-79

Tonau [7676D]:
Adela (J B Birkbeck)
Bremen (Neuvermehrtes Gesangbuch 1693)
Ellacombe (Mainz Gesangbuch c.1833)
Glastonbury Thorn (Evan T Davies 1878-1969)
Kilmorey (1840-1914)
Oxwich (T R Matthews 1826-1910)
Rhyddid (John Jones 1725?-96)
  St Thomas (<1829)
Talyllyn (alaw Gymreig)

gwelir:
  Bechadur gwel yn hongian
  Caned y genedl gyfiawn
  Ces ddwr o'r graig i yfed
  I'r Aipht daeth Iesu'm gwared
  Mae Crist a'i w'radwyddiadau
  Mae'r Iesu mawr yn maddeu
  Os dof i trwy'r anialwch
  Pa dduw ymhlith y duwiau?
  Teilwng yw'r Oen a laddwyd
  Wel dyma'r Un sy'n maddeu

(The Suitability of the Deliverer)
He opened the door to the captives
  To come from the great affliction;
With his valuable blood he paid
  All their debt down:
There is no condemnation
  To any of the divine seed;
The delivered sing
  About the great virtue of his blood.

It is to be sung and to be sung,
  In a vast eternity,
If one pilgrim is to be seen,
  So faint at the end of his journey;
And beaten in tempests,
  And washed in the blood,
Who was found and who was kept,
  Through free salvation.

I got water from the rock to drink,
  To break my great thirst,
Daily I got bread to eat,
  From heaven it came down;
I got a harp this side of death,
  All my afflictions fled,
To sing to the Lamb who died,
  He is a spouse to my delight.

See here is One who forgives
  Sins numerous as the dew;
There is no measure to his love,
  Nor ever any limit to it;
He is asking where to have mercy,
  He loves to be merciful;
Mercy to the destitute
  Who abide in him.

A beloved Brother who remembers us,
  In hours of captive straits,
A Brother full of sympathy,
  Not heard of was his like:
A firm Brother in the battle,
  He keeps his weak brothers,
Tenderly under his wing,
  He will bring the faint up.

Worthy is the Lamb who was slain
  Of all the great glory,
Through the centre of the heaven of heavens,
  And down here on earth;
When the whole creation turns
  To ashes by the fire,
The worthiness of Jesus for me
  Will be my eternal song.
 
 

tr. 2009,15 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~