At bwy yr awn O Arglwydd?

("At bwy yr awn ni?")
At bwy yr awn, O! Arglwydd,
  Ond atat Ti dy hun?
Darperi mewn helaethrwydd
  I gwrdd ag angen dyn;
Yr wyt yn gwrando gweddi
  Ddilafar gwaelion byd,
Gan agor mewn tosturi
  Dy enau dros y mud.

At bwy yr awn, O! Arglwydd
  Yn nydd cyfyngder mawr?
Pan fyddo storm euogrwydd
  Yn duo nef a llawr;
Ni gofiwn hen bwerau
  A ddofai'r gwynt a'r don,
O! Iesu cofia ninnau -
  Rho heddwch dan ein bron.

Yn ŵyneb twrf y bobloedd
  Ac ing cenhedloedd byd,
O! dwg derfysglyd luoedd
  Mewn cariad pur ynghyd;
O'n holl grwydradau bellach
  Trown atat Ti, ein Iôr,
Mae gair dy nerth yn gryfach
  Na chedyrn donnau'r môr.
Hugh Cernyw Williams (Cernyw) 1843-1937

Tôn [7676D]: Rhegium (J Owen Jones 1876-1962)

("To whom shall we go?")
To whom shall we go, O Lord,
  But to Thee thyself?
Thou preparest in generosity
  To meet with the need of man;
Thou art listening to the halting
  Prayer of the abject ones of the world,
While opening in mercy
  Thy mouth on behalf of the mute.

To whom shall we go, O Lord,
  In a day of great distress?
When a storm of guilt is
  Darkening heaven and earth;
We remember old powers
  Which would tame the wind and the wave,
O Jesus, remember us!
  Give peace under our breast.

In the face of a crowd of peoples
  And the anguish of a world's nations,
O bring tumultuous hosts
  In love together;
From all our wanderings henceforth
  Let us turn towards Thee, our Master,
The word of the strength is stronger
  Than the firm waves of the sea.
tr. 2017 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~