Awel gref dros fryniau'r gwynfyd

(Y Sabboth - "Yn yr ysbryd ar ddydd yr Arglwydd.")
Awel gref dros
    fryniau'r gwynfyd,
  Lle mae'r Sabboth yn parhau,
Chwytho ar ein hysbryd heddyw,
  Fel y paro i'n hiachau;
Yna byddwn oll yn gryfach,
  Mwy Sabbothol fydd ein wedd,
Nes y byddom yn addfedu,
  I ogoniant gwlad yr hedd.

Deued hefyd gyda'r awel,
  Swn Caniadau'r Sabboth draw,
Ar ein clustiau'n bergynghanedd,
  Fel pe byddai'r nef gerllaw,
Gwyned holl ogoniant daear,
  Gan ddylanwad nefol wres,
Fel y coder ein hysbrydoedd,
  Ni i'r nefoedd wen yn nes.
Côr y Plant 1875

Tôn [8787D]: Y Sabbath (<1875)

(The Sabbath - "In the spirit on the Lord's day.")
May a strong breeze across the
    hills of blessedness,
  Where the Sabbath is enduring,
Blow on our spirit today,
  That it continue to heal us;
Then may we all be stronger,
  More Sabbatical be our countenance,
Until we all grow mature,
  To the glory of the land of peace.

May there come also with the breeze,
  The sound of the Songs of yonder Sabbath,
Upon our ears as a sweet harmony,
  As if heaven were at hand,
May all the glory of earth fade,
  Under the influence of heavenly warmth,
That our spirits may raise
  Us nearer to the bright heavens.
tr. 2020 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~