Am iachawdwriaeth/iechydwriaeth lawn

(Môr o gariad)
  Am iechydwriaeth lawn,
  Foreuddydd a phrydnawn,
Molianu gawn yr Iesu gwiw;
  Dyoddefodd angeu loes,
  Yn ddiddig ar y groes,
A'i ddoniau roes i ddynol-ryw.

  O'r iechydwriaeth fawr,
  A lifodd i ni lawr,
Yn ffrydiau o anfeidrol hedd:
  Rhyw fôr o gariad yw,
  Dy heddwch di, fy Nuw,
A nef y nef yw
    gwel'd dy wedd.

- - - - -
(Ffynnon i bechod ac aflendid)
  Am iachawdwriaeth lawn,
  Foreuddydd a phrydnawn,
Moliannu gawn yr Iesu gwiw;
  Dioddefodd angeu loes
  Yn ddiddig ar y groes,
A'i ddoniau rhoes i ddynolryw.

  Gorphenwyd talu'n llawn,
  Ar groesbren un prydnawn;
O ddedwydd Iawn! ni gawn yn llu
  Faddeuant yn ei waed,
  A hollol wir iachâd;
A Duw yn Dad mewn cariad cu.

  Y ffynnon loyw hon,
  Yn ol y waywffon
Aeth dan ei fron -
    daeth i ni fraint!
  A ylch y brwnt yn lân;
  Hosanna, f'enaid cân:
Can's dyma sylfaen
    yr holl saint.
William Williams 1717-91

Tonau [668D]:
Abberton (A H Brown 1830-1926)
Amsterdam (Darmstädter Gesangbuch)
Ascalon (alaw henafol)
Eilian (H Elliot Button 1861-1925)
Hanwell (<1875)
St Ambros (<1876)
St Donatt (<1875)

gwelir:
  O iachawdwriaeth fawr

(A sea of love)
  Am iechydwriaeth lawn,
  Foreuddydd a phrydnawn,
Molianu gawn yr Iesu gwiw;
  Dyoddefodd angeu loes,
  Yn ddiddig ar y groes,
A'i ddoniau roes i ddynol-ryw.

  O'r iechydwriaeth fawr,
  A lifodd i ni lawr,
Yn ffrydiau o anfeidrol hedd:
  Rhyw fôr o gariad yw,
  Dy heddwch di, fy Nuw,
A nef y nef yw
    gwel'd dy wedd.

- - - - -
(A fount for sin and uncleanness)
  For full salvation,
  Morning and afternoon,
We may praise the worthy Jesus;
  Who suffered mortal anguish,
  Contentedly on the cross,
And his gifts he gave to humankind.

  Paying was finished fully,
  On the wooden cross one afternoon,
O happy Ransom! we get as a host,
  Forgiveness in his blood,
  And complete, true healing,
And God as a Father, in dear love.

  This shining fount,
  In the mark of the spear,
Went under his breast -
    became for us a privilege!
  Which washes the filthy clean;
  Hosanna, my soul, sing;
Since hear is the foundation
    of all the saints.
tr. 2017 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~