Am Iesu Grist a'i farwol glwy', Aed miloedd mwy o sôn; A d'weded pob rhyw enaid byw, Mai teilwng ydyw'r Oen. Fe ddaeth yn dlawd, Etifedd nef, I ddioddef marwol boen; Myneged pob creadur bwy Mai teilwng ydyw'r Oen. Y llu angylaidd draetha'n awr Am rinwedd mawr Ei boen; Cyganed pawb o ddynol-ryw Mae teilwng ydyw'r Oen. Aed sôn am waed yr Oen ar led Y ddaear faith i gyd; Gwybodaeth bur a chywir gred Ymdaened dros y byd. Fe ddaw'r blynyddoedd pur i ben Pan d'wyno Efengyl gras, Fel haul dysgleirwyn yn y nen, O gylch i'r ddaear las. Ac mi ddysgwyliaf hyfryd wawr, Boreuddydd Jubili, Pan ddelo holl dylwythau'r llawr I deithio i Galfari. 'Nol treulio oesoedd maith diri' Yn canu'i glodydd glān, O hyd ei fawl ar gynnydd fydd, A newydd fydd y gān.
Tonau [MC 8686]: |
About Jesus Christ and his mortal wound, May thousands more be going to talk; A let every kind of living soul say, That worthy is the Lamb. He came as someone poor, the Heir of heaven, To suffer mortal pain; Let every living creature express That worthy is the Lamb. The host of angels are expounding now The great virtue of His pain; Let everyone of human-kind chorus That worthy is the Lamb. May the mention of the Lamb's blood go abroad Over all the vast earth; May the pure knowledge and true faith Spread across the world. The pure years are coming about When the Gospel of grace shall shine, Like a brilliant sun in the sky, Around the blue-green earth. And I await the delightfully dawn, Of the morn of Jubilee Day; When all the tribes of the earth shall come To travel to Calvary. After spending vast unnumbered ages Singing his holy honours, Always his praise shall be increasing, And new shall be the song. tr. 2010,20 Richard B Gillion |
|