Anfeidrol Dduw ein Harglwydd mawr Rheoli di y nef a'r llawr A rhodio wnei yn hy dy hynt Byth ar adenydd chwim y gwynt, O awrwain, Iôr, y teithwyr sy Â'u hantur yn yr awyr fry. Pan fo'r cymylau, megis llen, A'r ddrycin yn tramwyo'r nen, Dihangol ydynt yn dy law, Un niwed iddynt hwy ni ddaw; Hyd lwybrau maith yr wybren las O cadw hwy drwy nerth dy ras. Ar lwbrau unig pell y nef Rho iddynt fraich a chalon gref, A thywys hwy y dydd a'r nos Nes cyrraedd hedd yr hafan dlos; A molwn di ag uchel lef Ein Duw, Penllywydd llawr a nef.David Lewis (Ap Ceredigion) 1870-1948
Tonau [88.88.88]: |
Infinite God our great Lord Thou dost rule heaven and the earth And walk thou dost boldly thy course Forever on the swift wings of the wind, O lead, Lord, the travellers whose Ventures are in the sky above. When the clouds are, like a curtain, And the foul weather, crossing the sky, Safe are they in thy hand, No harm shall come to them; Along the vast paths of the blue sky O keep them through the power of thy grace. On the lonely, distant paths of heaven Give them a strong arm and heart, And lead them day and night Until reaching the peace of the fair haven. And we shall praise thee with a loud cry, Our God, the Chief Governor of earth and heaven.tr. 2019 Richard B Gillion |
|