Anfeidrol yw dy allu mawr, Ti Grewr nefoedd wèn a llawr; Trwy ddweyd y gair daeth myrdd i fod, I rwydd fynegi'th gyfiawn glod. Myrdd, myrdd o fydoedd mwy na rhi', Babellant mewn ehangder fry, A'r dirfawr lu, annhraethol faich, Gynnalia'n hawdd dy nerthol fraich. Y gwynt a'r môr a ro'nt it' barch, Gan ymlonyddu wrth dy arch; A'r mellt sy'n peri braw a chur, A ant ffordd trefno'th gynghor pur. O ym'lau'r byd hyd drigle sêr, O'r eigion mawr hyd orsedd Nêr, Iaith eglur pob creadur yw, Mai Hollalluog ydw Duw. Y fraich sy'n dal sylfeini'r byd, A maith golofnau'r nef i gyd, Yn estyngedig heddyw sydd O blaid y tlawd o 'chydig ffydd. Gwaith ofer fydd i uffern mwy, I roi merch Seion dan ei chlwy'; I'r lan â hon i'w chartref fry, Hollalluogrwydd sydd o'i thu. O ym'lau :: O eitha o 'chydig ffydd :: sy'n meddu ffydd Casgliad o Hymnau (J Harris) 1824
Tonau [MH 8888]: |
Immeasurable is thy great power, Thou Creator of bright heaven and earth; Through saying the word came a myriad into being, To readily express thy rightful praise. A myriad, a myriad of worlds greater than number, Camp in expansiveness above, And the enormous host, an inexpressible load, Thy strong arm upholds easily. The wind and the sea render to thee honour, By calming at thy command; And the lightning which causes terror and pain, Goes the way thy pure counsel arranges. From the sides of the world to the dwelling place of stars From the great ocean to the throne of the Lord, The clear language of every creature is, That Almighty is God. The arm that holds the foundations of the world, And all the vast columns of heaven, Is stretched today On behalf of the poor of little faith. A vain work it is for hell any more, To put the daughter of Sion under her wound; Up with this one to her home above, Omnipotence is on her side. From the sides :: From the extremity of little faith :: who lack faith tr. 2015 Richard B Gillion |
|