Anfonodd Duw i'r byd

1,2,(3).
(Duw yn anfon ei Fab)
  Anfonodd Duw i'r byd
    Ei anwyl Fab ei hun;
  Bu farw Crist mewn pryd
    I wared euog ddyn:
Trugaredd Duw a bery byth,
A'i air dilyth safadwy yw.

  Fe'n canfu ni ar goll
    Trwy bechod, oll i gyd;
  O'i ras tosturio wnaeth
    Wrth gyflwr caeth y byd:
Trugaredd Duw a bery byth,
A'i air dilyth safadwy yw.

  Rhowch foliant oll yn awr
    I Frenin mawr y nef,
  A chaned daear faith
    Am waith ei gariad ef:
Trugaredd Duw a bery byth,
A'i air dilyth safadwy yw.
Cas. o Hymnau ... Wesleyaidd 1844

Tôn [666688] Pennal (<1876)

gwelir: Rhowch glod i'r uchel Dduw

(God sending his Son)
  God send to the world
    His own beloved Son;
  Christ died in time
    To deliver guilty man:
The mercy of God shall endure forever,
And his unfailing word is established.

  He found us lost
    Through sin, all together;
  Of his grace he showed mercy
    To the captive condition of the world:
The mercy of God shall endure forever,
And his unfailing word is established.

  Render ye all praise now
    To the great King of heaven,
  And let the vast earth sing
    About the work of his love:
The mercy of God shall endure forever,
And his unfailing word is established.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~