Anwylaf wrthrych f'enaid drud, Fy holl hyfrydwch yn y byd, Na 'mâd â mi, un eiddil gwàn, Sy'n teimlo'th eisieu yn mhob màn. O! aros yma 'ngwrês y dydd; Fy nghystudd yn chwanegu sydd; Yn griddfan 'r wyf o dàn y groes; Pa bryd y ffŷ cymylau'r nôs? O! aros nes daw'r seren sydd Yn arwain hyfryd oleu'r dydd, A ch'odi'r haul oleuwen glir Sy'n dangos bryniau Salem dir. - - - - - Anwylaf wrthrych f'enaid drud, Fy holl hyfrydwch yn y byd, Na 'mad â mi, yr wyf mor wan, 'Rwy'n teimlo'th eisieu yn mhob màn. Fy nghystudd yn chwanegu sydd, Rho nerth i ddal yn ngwres y dydd; Yr wyf yn griddfan tan y groes, Ond diolch nad' yw'n fythol loes. F'anwylyd rho dy wyneb pur, 'Doed gan y byd un pleser gwir; Holl obaith a holl gysur dyn, Sy'n gyflawn ynot ti dy hun. Can's yn dy absenoldeb mae, Pob peth pryd hyn yn troi yn wae; 'Does dim rydd gysur im' wrth fyw, Ond cael dy gwm'ni O fy Nuw. - - - - - Anwylaf wrthddrych f'enaid drud, Fy holl hyfrydwch yn y byd; Na 'mad â mi sydd eiddil gwan, Yn teimlo'th eisieu yn mhob màn. O! aros yma 'ngwres y dydd, Fy nghystudd yn chwanegu sydd; Aros, - 'rwy'n gruddfan dan y gro's, Nes ymaith ffoi cymylau'r nos. F'anwylyd, tro dy wyneb pur, 'Does gan y byd un pleser gwir; Pob gobaith a phob cysur cun, Sy'n aros ynot ti dy hun. Ond yn dy absenoldeb mae 'R pleserau goreu yn troi yn wae; 'Does a'm digona tra f'wyf byw Ond profi hyfryd hedd fy Nuw.William Williams 1717-91
Tonau [MH 8888]: |
Dearest object of my precious soul, All my delight in the world, Do not leave me, a feeble weak one, Who is feeling the need of thee everywhere. O stay here in the heat of the day; My affliction increasing is; Groaning I am under the cross; When shall the clouds of night flee? O stay near until the star comes which is Leading the delightful light of day, And the bright, clear sun rises Which is showing the hills of Salem land. - - - - - Dearest object of my precious soul, All my delight in the world, Do not leave me, I am so weak, I am feeling the need of thee everywhere. My affliction increasing is, Give strength to hold on in the heat of the day; I am groaning under the cross, But thanks it is not eternal anguish. My beloved grant thy pure face, The world has not one true pleasure; All the hope and all the comfort of man, Is complete in thee thyself. Since in thy absence is Everything now turning into woe; Nothing gives me pleasure while living, But to get thy company, O my God. - - - - - The dearest object of my precious soul, All my delight in the world; Do not leave me who am feeble, weak, Feeling the need of thee in every place. O stay here in the heat of the day! My affliction is increasing; Stay, - I am groaning under the cross, Until the clouds of night flee away. My beloved, turn thy pur face, The world has no true pleasure; Every hope and every dear comfort, Is abiding in thee thyself. But in thy absence are The best pleasures turning into woe; Nothing satisfies my while I am living But experiencing the delightful peace of my God.tr. 2017,21 Richard B Gillion |
|